Paentio gyda'n Gilydd (Gweithdy Rhithiol)
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ymunwch â ni yn rhithwir i archwilio'r gelf ddramatig o'n casgliad morwrol a phaentio eich fersiwn eich hun ynghyd â ni. Yn ddelfrydol i ddisgyblion iau ddysgu am hanes morwrol Cymru, technegau paentio a theori lliwiau.
✏️ Cymryd Rhan
Cysylltwch ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a chymryd rhan mewn sesiwn baentio rhyngweithiol.
*Lawrlwythwch y daflen baratoi a'r templed yma. Argraffwch y templed fel A4 o leiaf ar unrhyw fath o bapur.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae hon yn sesiwn baentio felly gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion bopeth sydd ei angen arnynt ac yn gwisgo ffedogau.
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600