REACH Cymru
Mae Amgueddfa Cymru a'r Brifysgol Agored yn cydweithio ar broject REACH Cymru (Trigolion yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth). Mae REACH yn broject treftadaeth a chelfyddydau creadigol sy’n gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys:
- Butetown, Caerdydd
- Dyffryn Nantlle, Gwynedd
- Traethmelyn, Port Talbot
- Pobl ag anableddau dysgu, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
- Cymunedau gwledig, Sir Benfro
Ym mhob cymuned, byddwn yn cydweithio i ddatgelu straeon cudd, tynnu sylw at dalent leol ac archwilio casgliadau Amgueddfa Cymru. Bydd yn arwain at amrywiaeth o arddangosfeydd ar-lein ac arddangosfa ar safle.
Os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd hyn ac eisiau cymryd rhan, cysylltwch â Wales.REACH@open.ac.uk.
Eisiau gwybod mwy? Ewch i wefan REACH Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gweill, straeon lleol a mwy.
Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.