Cardiau Nadolig
3 Medi 2015
,[diweddariad - mae'r cyfnod pleidleisio 'nawr ar ben - diolch i bawb a gymerodd ran!]
Dolig Cynnar - i ni sy'n Cynllunio'r Cerdiau
Wrth i’r haf ddirwyn i ben, rydym ni’n brysur yn gweithio ar ein nwyddau Nadolig, a fe hoffem ni gael chydig o help gennych chi.
Mae gan Amgueddfa Cymru gymaint o gasgliadau amrywiol a gwerthfawr, a bob blwyddyn mae’n bleser cael dewis rhywbeth o’u plith i’w roi ar ein cardiau Nadolig.
Mae’n curaduron wedi bod yn ddiwyd iawn yn barod, ac wedi dod o hyd i wrthrychau, ddarluniau, ffotograffau a sbesimenau Nadoligaidd ar ein cyfer eleni.
Helpwch ni - Dewiswch Eich Ffefryn
A wnewch chi wneud yn penderfyniad terfynol a dewis eich hoff gyllun o’r rhesti isod? Dewiswch hyd at dri:
Crëwyd rhain gan ein Swyddog Delweddu Digidol yn yr Adran Gwyddorau Naturiol. Edrychwch yn ofalus a fe sylwch nad yw’r eira yma’n luwch i gyd.
Cwiltiau appliqué coch a gwyn o gasgliad tecstiliau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Yr enw ar y math hwn o goch yw ‘Coch Twrci’!
Darluniad o fochyn coed o’n casgliad Gwyddorau Naturiol.
Ffotograff archif o hwyl yr wyl o Archif Sain Ffagan - ffotograff o fenyw Gymreig gan John Thomas, ffotograffydd teithiol cynnar.
Llun o blant yn mwynhau’r Calennig adeg y flwyddyn newydd, o Archif Ffotograffig Sain Ffagan.
Robin goch o gasgliad tacsidermi yr Adran Gwyddorau Naturiol.
Darlun o ddau dwrci gan Pierre Belon o gasgliad Llyfrgell Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dau aderyn wedi’u darlunio o 4ydd cyfrol ‘History of British Birds’ wedi’i gynnig gan Lyfrgellydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Poinsettia trawiadol, hefyd o gasgliad Llyfrgell Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Map o’r sêr o’r 16eg ganrif, o gasgliad llyfrau cynnar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Torch dymhorol wedi’i gosod ar ddrws Castell Sain Ffagan.
Rhes o sanau wedi’u gweu â llaw o gasgliad tecstiliau Sain Ffagan.
Pa rai yw'ch ffefrynau? Cofiwch daro'ch pleidlais!
sylw - (5)