Wedi'r Feirniadaeth
28 Medi 2015
,Dyma flog i werthfawrogi gwagle.
Dydyn ni ddim yn cael llawer o gyfle i fyfyrio am ein gwaith, achos ma' wastad mwy ohono i'w wneud. Felly, cyn i mi fynd i'r afael ag ail-wampio'n tudalennau llogi preifat; gorffen paratoi ar gyfer cynhadledd Archif Menywod Cymru a dechre helpu efo tudalennau 'cynnig syniad am ddigwyddiad', dewch i ni eistedd am eiliad a syllu 'mewn i'r gagendor mawr tawel, ac anadlu.
Neis, ond'yw e? [The Sea's Edge, Arthur Giardelli]
Gan fod 'cadw'n brysur' yn un o'n chwaraeon cenedlaethol, dyw hyn ddim at ddant pawb - ond dwi'n licio'r syniad o bwyso a mesur, aros yn llonydd am ennyd, a gwrando. Mi ddoiff na alwad bob tro: ebost sydd di syrthio lawr cefn y mewnflwch; llyfr 'dych chi wedi bod yn meddwl ei ddarllen ers sbel; neu bydd cyd-weithiwr liciech chi dreulio mwy o amser yn dysgu ganddynt yn taro'u pen trwy'r drws i weld a ydych chi ffansi paned.
Gwerthuso ac Archwilio
Rydym ni'n newid fel adran ar hyn o bryd - bydd dau aelod newydd yn ymuno â'r tîm yr wythnos hon - a rydym ni i gyd wedi bod yn gweithio ffwl-sbîd, os braidd ar wahan, ar brosiectau gwahanol ar y we, mewn orielau, y cyfryngau cymeithasol, rheolaethol, ymchwil a chynllunio.
Mae Graham, sy'n arwain y tîm cynnwys, wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect sector-gyfan sy'n edrych ar fodelau gwerthuso, pwyso a mesur, o'r enw Let's Get Real. Yr wythnos ddiwetha, mi fuodd gerbron y 'Crit Room' ym Mrighton, yn cyflwyno'n gwaith ar gyfer ei archwilio a'i feirniadu. Diddorol a brawychus.
Mae canlyniad y 'crit' wedi bod yn galonogol iawn - roeddwn i wedi bod yn poeni braidd am faint ein rhwydwaith twitter, am fod cost amser hyfforddi pawb yn tyfu drwy'r amser i fi. Ond, cawsom adborth fod hyn yn arwydd da ein bod yn ffynnu ar-lein, ac i boeni llai amdano.
Dwi'n ceisio dilyn eu cyngor nhw, go iawn.
Adborth y Stafell Feirniadu
Tafod allan-o'm-boch, dwi'n hapus efo sut 'dyn ni'n gweithio fel rhwydwaith dyddie 'ma, ac yn falch iawn pan dwi'n gweld pobl yn llamu 'mlaen yn defnyddio'u sgiliau newydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth dynnu rhifau at ei gilydd ar gyfer adroddiad arall, fe sylwais ein bod wedi cyrraedd carreg filltir bwysig iawn yn y misoedd diwetha: dros y rhwydwaith, mae gennym dros 125,000 o ddilynwyr. Dwi'n gwbod mai nid o rifau'n unig yr adeiladir llwyddiant ar-lein, ond, dwnim, mae 'na rywbeth tawel, boddhaol am weld rhes o '000'au gwag, cegagored.
Mi gafodd Chris, sy'n gyfrifol am adeiladu seiliau ail-ddatblygiad y wefan (a llawer mwy), a gweddill y tîm, hwb gan y Stafell Feirniadu, hefyd - yn benodol, fod ein harlwy ar-lein yn 'werthfawr iawn, yn gyfoethog ac yn foddhaol'. Alla i ddim peidio â meddwl am goffi pan dwi'n darllen y geiriau yna. Amser i stopio blogio am stopio a dechre stopio am baned.