Diwrnod plannu ar 20 Hydref! 2015-10-13 Penny Dacey, 13 Hydref 2015 Helo Cyfeillion Gwanwyn,Dim ond wythnos i fynd cyn diwrnod plannu ar 20 Hydref! Ydych chi'n barod? Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch paratoi ar gyfer plannu eich bylbiau ac am ofalu amdanynt yn ystod y misoedd nesaf! Mae'r rhain hefyd ar safle we Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/Cyn y diwrnod plannu dylech ddarllen y dogfennau hyn:• Llythyr oddi wrth Athro'r Ardd (cyflwyniad i'r prosiect)• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)A chwblhawyd y gweithgareddau hyn:• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau• Creu Labelai BylbiauMae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod pa mor ddwfn mae angen i chi blannu eich bylbiau? Neu sut i labelu fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu?Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ffotograffydd Diwrnod Plannu!Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd! Athro'r Ardd a Bwlb Bychan