Cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2016
29 Ionawr 2016
,- Dyddiad cau ar gyfer cofrestru wedi'i ymestyn tan Ddydd Gwener 19 Chwefror 2016
Categori Newydd – Project Digidol Gorau!
Bob blwyddyn bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau projectau treftadaeth cenedlaethol.
Caiff y gair ‘treftadaeth’ ei ddefnyddio yn ei ystyr ehangaf – i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau, diwylliant, byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celf a chwaraeon.
Mae manylion llawn y gystadleuaeth i’w cael yma
Categori Project Digidol Newydd! Noddir gan Gasgliad y Werin Cymru
Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan wych sy’n llawn ffotograffau diddorol, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon ynghylch hanes a threftadaeth Cymru a’i phobl.
I Gystadlu yn y Categori Project Digidol:
-
Dewiswch bwnc sy’n ymwneud â ‘Threftadaeth’ er mwyn cystadlu yng Nghystadleuaeth WSHI
-
Gwnewch broject sy’n cynnwys deunydd digidol
-
Uwchlwythwch eich project ar wefan CyW
-
Gallech Ennill Gwobr i’ch ysgol!
Am fwy o fanylion ewch i wefan Casgliad y Werin Cymru Cymorth a hyfforddiant ar ddefnyddio Casgliad y Werin Cymru ar gael AM DDIM!
Cliciwch yma i ymgeisio
Rhaid gyrru eich ffurflen ymgeisio erbyn 19 Chwefror 2016. Bydd y projectau yn cael eu beirniadu rhwng 18 Ebrill a 6 Mai.
sylw - (3)
Hi Stephanie - I will pass this on to our co-ordinator and get back to you via email, if that's ok. Many thanks for your enquiry.
Sara
Digital Team
Hi, is it too late to enter the competition? Our school won a prize last year and I have just realised the closing date was last Friday? Our school is Ffaldau Primary School, Bridgend. Thank you, Stephanie Evans