Hafan y Blog

Wythnos Twristiaeth Cymru: 29 Chwefror – 6 Mawrth

June Francois, 24 Chwefror 2016

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth wrth greu swyddi, cynhyrchu incwm ac adeiladu proffil treftadaeth a diwylliant Cymru. Cynghrair Twristiaeth Cymru, sef corff ambarél y diwydiant, sy’n cydlynu’r wythnos.

Mae Amgueddfa Cymru yn chwarae rhan bwysig yn adrodd stori hanes a diwylliant Cymru trwy ei hamgueddfeydd.

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ni. Bydd llond lle o weithgareddau a digwyddiadau arbennig yn ein hamgueddfeydd i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru.

Yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar 27 Chwefror, bydd cyfle i ymarfer eich Cymraeg a bydd bwyd Cymreig traddodiadol, canu, crefftau, stondinau a gweithgareddau lu ar gyfer y plant.

Yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, cewch wir flas ar fywyd Cymreig y Rhufeiniaid. Yno, ar 28 Chwefror, bydd cyfle i goginio picau ar y maen, creu baneri bach y ddraig a chennin i’w gwisgo ar ddiwrnod y dathlu,.

Ar y diwrnod mawr, bydd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Bydd y dathliadau’n parhau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 5 Mawrth, gyda pherfformiadau, celf a chrefft, a cherddoriaeth werin a thwmpath yng nghwmni Twmpath Tawerin, RAFFDAM, Ric-a-Do a Gildas.

Cystadleuaeth ffotograffiaeth

Gan mai eleni yw Blwyddyn Antur yng Nghymru, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth ddigidol newydd sbon. Mae’n agored i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed, ac maent yn chwilio am ffotograffau o Gymru sy’n gartref antur ar ei gorau. Am ragor o fanylion, ewch i www.wta.org.uk.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.