Hafan y Blog

Teigr Newydd ar gyfer Amgueddfa Cymru

Jennifer Gallichan, 17 Mawrth 2017

Croeso Bryn, ein sbesimen hanes natur diweddaraf.

Ffotograff o Bryn, spesimen Teigr Swmatraidd sy'n rhan o gasgliad hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bryn y Teigr Swmatraidd

Teigr Swmatraidd yw Bryn. Treuliodd ei fywyd yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn fel un o’r trigolion mwyaf eiconig. Yn ystod ei fywyd, rhoddodd bleser mawr i ymwelwyr y sw, gan helpu i godi proffil cyflwr y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Roedd ganddo bersonoliaeth hamddenol a hoffus ac roedd yn rhan allweddol o’r profiadau ‘Ciper am Ddiwrnod’ a ‘Cyfarfod Anifail’ yn Sw Mynydd Cymru. Bu farw o achosion naturiol ym mis Awst 2016, yn 17 oed. Wrth sefyll ar ei bwys, cewch deimlad go iawn o harddwch a phŵer yr anifeiliaid anhygoel hyn.

Dim ond ar ynys Swmatra yn Indonesia y mae Teigrod Swmatraidd yn byw ac mae ymdrechion cadwraeth sylweddol ar waith ledled y byd. Mae eu niferoedd wedi gostwng yn ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf yr ymdrechion hyn, ac amcangyfrifir bod llai na 400 o deigrod ar ôl yn eu cynefin. Mae colli cynefinoedd, masnach anghyfreithlon a diffyg bwyd i gyd wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn. Mae’r teigrod yn byw mewn amrywiaeth eang o goedwigoedd – o iseldiroedd arfordirol i fynyddoedd – ac mae’n well ganddyn nhw goedwigoedd tawel sydd heb eu haredig gydag isdyfiant dwys a llethrau serth. Mae miliynau o erwau o’r coedwigoedd hyn yn cael eu torri bob blwyddyn i wneud lle i’r planhigfeydd cnydau dwys fel olew palmwydd ac acasia. Mae hyn yn golygu bod llai o ysglyfaeth iddyn nhw eu hel, a bod poblogaeth teigrod bellach yn dameidiog, gan beryglu’r broses o adfer y rhywogaethau. Mae masnachu darnau o deigrod yn anghyfreithlon yn dal i fod yn gyffredin er gwaethaf diogelwch cenedlaethol a rhyngwladol llawn, ac mae darnau o deigrod dal ar werth yn agored ar yr ynys.

Felly pam cael Teigr Swmatraidd mewn amgueddfa yng Nghymru? Pam cael anifeiliaid wedi’u stwffio o gwbl? Mae hyn yn gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml yn yr Amgueddfa. Yn gyntaf, mae amgueddfeydd yn chwarae rhan bwysig fel stordai ar gyfer bioamrywiaeth, drwy roi cofnod o rywogaethau ar gof a chadw. Er enghraifft, mae gennym anifeiliaid diflanedig fel y Thylacine (Blaidd o Tasmania) a’r Carfil Mawr, a sgerbwd Dodo hyd yn oed, yn ein casgliadau. Gyda niferoedd teigrod Swmatraidd mor isel, mae’n bwysicach nawr nag erioed ein bod yn cadw cofnod o’r rhywogaeth hon.

Yn ail, mae creaduriaid eiconig yn rhan bwysig o gasgliadau amgueddfeydd. Mae fertebriaid yn cael llawer mwy o sylw cyhoeddus nag unrhyw grŵp arall o anifeiliaid neu blanhigion. Yn aml iawn, maen nhw’n ddel ac yn apelgar, ac felly’n dod yn symbolau ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion cadwraeth. Gall y creaduriaid hyn gael eu defnyddio i hoelio sylw’r cyhoedd ac i siarad am amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar fywyd gwyllt ledled y byd. Fel lleoliad di-dâl, rydym mewn lle da i ymgysylltu pobl gyda’r byd o’u cwmpas. Yn aml iawn, amgueddfeydd yw un o’r llefydd cyntaf y mae pobl yn cael golwg agos ar fywyd gwyllt. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa wych i siarad am y bygythiad i fywyd gwyllt, nid yn unig dramor ond ar garreg y drws. Cofiwch, nid anifeiliaid egsotig mewn llefydd pellennig yn unig sydd mewn perygl. Yr anifeiliaid ‘rhwysgfawr’ hyn yw’r ‘fynedfa’ i anifeiliaid llai rhodresgar ond sydd eto’n wynebu’r un perygl, megis Cragen Las Berlog, Britheg Frown neu Ddafad-Frathwr. Boed yn deigr o Swmatra neu’n durtur o’r DU – yr un yw’r neges. Rydym am i’n hymwelwyr fod yn fwy ymwybodol o’r byd naturiol o’u cwmpas a rhoi’r pŵer iddyn nhw gymryd rhan fwy actif wrth ei fwynhau a’i warchod.

Bryn fydd canolbwynt ein Diwrnod Teigr Cenedlaethol, 29 Gorffennaf 2017, felly bydd cyfle i chi ddod i weld y creadur enigmatig hwn gyda’ch llygaid eich hun. Dewch â’ch teuluoedd a chymerwch ran mewn gweithgareddau, dysgwch fwy am beth mae amgueddfeydd yn eu gwneud gyda’u casgliadau a beth allwch chi ei wneud i ddiogelu teigrod fel Bryn.

Gallwch chi ddysgu mwy am Deigrod Swmatraidd a’r gwaith o’u gwarchod ar wefan y WWF.

Gallwch chi ddysgu mwy am warchod bywyd gwyllt Prydain ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, a gwefan yr RSPB.

Gallwch chi ddysgu mwy am y casgliadau o anifeiliaid asgwrn cefn ar wefan Amgueddfa Cymru.

Jennifer Gallichan

Curadur Bioamrywiaeth Anifeiliaid Di-asgwrn Cefn
Gweld Proffil

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Rashmi Sharma
8 Gorffennaf 2017, 14:14
very nice article...Love your site...looking forward TO more post like this...
you might also like this International Tiger Day 2017