Ysgol Tonyrefail yn archwilio natur yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
19 Gorffennaf 2017
,Bob blwyddyn mae ysgolion sy’n gwneud cyfraniad mawr yn cael eu dewis fel enillwyr Project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – un o bob gwlad sy’n cymryd rhan. Ymddiriedolaeth Edina sy’n trefnu gwobrau yr Alban a Lloegr (a Gogledd Iwerddon o’r flwyddyn nesaf ymlaen), gydag Amgueddfa Cymru’n trefnu gwobrau’r ysgol fuddugol yng Nghymru.
Yr enillwyr eleni oedd Ysgol Gynradd Tonyrefail, a’u gwobr oedd trip i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gyda bws a gweithdai addysgiadol am ddim. Roedd yn bleser cyfarfod â’r grŵp ac fe gawson ni amser wrth ein bodd yn astudio natur yn Sain Ffagan.
Dyma fi’n croesawu’r grŵp oddi ar y bws ac yn eu harwain drwy’r Amgueddfa i Sgubor Hendre Wen. Anaml mae’r sgubor ar agor i’r cyhoedd, a dim ond yn ddiweddar mae wedi dechrau cael ei defnyddio fel gofod addysgiadol i ysgolion. Dyma oedd ein pencadlys ni am y diwrnod, ac roedd y plant yn edrych ymlaen i glywed am yr ystlumod a’r adar sydd wedi ymgartrefu yn y sgubor!
Dechreuais drwy ddiolch i’r grŵp am eu gwaith caled ar y project, a gofyn sut oedden nhw’n cadw trefn ar y gwaith yn y dosbarth? Wedyn, dyma fi’n rhoi cyflwyniad byr o ganlyniadau’r project i ddangos sut mae eu gwaith wedi cyfrannu at astudiaeth hirdymor o effaith newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Un adborth diddorol oedd syniad clyfar y dosbarth i ddefnyddio rotor i ddangos tro pwy oedd hi i gasglu data bob wythnos, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.
Dyma ni wedyn yn rhannu’n ddau grŵp. Aeth Grŵp A gyda Hywel i’r Tanerdy i astudio’r bywyd gwyllt sy’n byw yn y pyllau – roedd y pyllau’n arfer cael eu defnyddio i drin lledr, ond bellach mae nhw wedi llenwi â dŵr. Wrth chwilio dyma nhw’n canfod amryw greaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn y pyllau, a thrafod eu cylch bywyd a’u cynefin. Cafodd y grŵp hefyd gyfle i ddal Madfall Ddŵr Balfog, oedd yn brofiad newydd sbon i’r mwyafrif!
Dilynodd Grŵp B fi i’r guddfan adar, lle buon ni’n braslunio’r coed ac yn defnyddio binocwlars a thaflenni adnabod adar i adnabod trigolion y goedwig. Roedden ni’n lwcus iawn i gael gweld amrywiaeth o adar, gan gynnwys cnocell fraith fwyaf! Daeth wiwerod a llygod coed i ddweud helo hefyd, oedd bron mor gyffrous â gweld yr adar. Dyma ni’n trafod y rhywogaethau adar gwahanol, eu lliwiau, eu cylch bywyd a’u cynefin. Dyma ni hefyd yn trafod sut mae bywyd gwyllt yn elwa o’r lle bwydo a beth allwn ni ei wneud yn ein gerddi neu ar dir yr ysgol i helpu bywyd gwyllt.
Ar ôl i’r grwpiau gyfnewid, fel bod pawb yn cael cyfle i archwilio’r goedwig a’r pyllau, dyma ni’n cael cinio yn y sgubor ac atebodd Hywel lawer o gwestiynau am yr Ystlumod Hirglust Brown, y rhywogaeth dan warchodaeth sy’n clwydo yn nhrawstiau’r sgubor.
Ar ôl cinio dyma ni’n cael trafodaeth ehangach ar gynefin a meddwl am y trychfilod gwahanol sydd i’w gweld yn ein gerddi. Roedd y drafodaeth yn help mawr gyd thasg nesaf y plant – creu gwesty trychfilod i fynd adref gyda nhw. Dyma ni’n ailgylchu potiau planhigion, gwellt yfed a gwellt naturiol wrth adeiladu, a thrafod ble fyddai orau i osod y gwestai i ddenu gwahanol drychfilod. Dewisodd rhai o’r grŵp osod eu gwestai mewn llefydd heulog, uchel er mwyn denu gwenyn unigol, a dewisodd eraill lefydd cysgodol ar y llawr er mwyn denu pryfed sy’n hoff o amodau oerach.
Dim ond ei gwneud hi’n ôl i’r bws mewn pryd wnaethon ni wrth i ni edrych am bryfed ar hyd y llwybrau. Fe ges i a Hywel diwrnod gwych ac o’r wên ar eu hwynebau a’r adborth ffafriol, cafodd Ysgol Tonyrefail amser wrth eu bodd hefyd. Diolch eto Gyfeillion y Gwanwyn!
Adborth Ysgol Gynradd Tonyrefail:
‘Dwi’n credu taw dyma un o’n hoff dripiau achos dwi heb weld y rhan fwyaf o beth welais i heddiw ac mae mor ddiddorol.’
‘Fe ges i amser da a mwynhau gwylio adar a chwilio’r pwll. Roeddwn i’n hoffi gwylio adar achos ei fod yn ddiddorol ac roeddwn i’n gallu gysgu am rywogaethau do’n i ddim yn gwybod amdanyn nhw o’r blaen.’
‘Fe wnes i fwynhau heddiw yn bennaf achos chwilio’r pyllau a’r gwylio adar.’
‘Fe ges i hwyl heddiw. Roeddwn i’n hoffi’r gwylio adar achos fe welais i rai adar am y tro cynta.’
‘Nes i fwynhau dal y fadfall ddŵr achos ei fod yn teimlo fel dal putty byw, ac fe wnes i hoffi gwylio’r adar achos eu bod nhw’n edrych yn bert iawn.’
‘Roeddwn i’n mwynhau achos dyma’r tro cyntaf i fi ddal madfall ddŵr. Roeddwn i’n falch bod fy ngwesty trychfilod wedi troi allan yn grêt.’
‘Fe ges i hwyl yn cwrdd â pawb a roen i’n dwlu gwneud gwesty trychfilod achos ei fod yn hwyl. Roedd heddiw yn hwyl.’
‘Roeddwn i’n hoffi gwneud y gwesty trychfilod achos dwi’n hoffi gwneud pethau.’