Hafan y Blog

Cofnodion Blodau

Penny Dacey, 29 Mawrth 2018

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Diolch i’r ysgolion sef wedi rhannu ei chofnodion blodau! Cofiwch i wneud yn siŵr bod y dyddiad yn gywir a bod taldra'r planhigyn wedi ei chofnodi yn filimedrau. Rydym wedi cael cofnodion yn dweud bod planhigion wedi blodeuo ym mis Ebrill a hefo disgrifiadau am grocws a chennin pedr anhygoel o fyr!

Os ydych yn gweld bod eich cofnodion angen ei chywiro, yna yrrwch rhai newydd i mewn hefo esboniad o hyn yn y bwlch sylwadau.

Rwyf wedi mwynhau darllen y sylwadau hefo’r cofnodion tywydd a blodau dros y pythefnos diwethaf. Rwyf wedi atodi rhai o’r sylwadau isod. Daeth cwestiwn diddorol o Ysgol Stanford in the Vale flwyddyn ddiwethaf, yn gofyn a oedd rhaid cofnodi pob blodyn i’r wefan os oedd y dyddiad a’r taldra'r un peth? Mae’n bwysig i rannu’r cofnodion i gyd, oherwydd mae'r nifer o blanhigion sydd yn blodeuo ar ddyddiad unigol a’r taldra'r planhigion yn effeithio'r canlyniadau.

I weithio allan taldra cymedrig eich ysgol ar gyfer y crocws a’r cennin pedr, adiwch bob taldra o’r crocws neu’r cennin peder, a rhannwch hefo'r nifer o gofnodion. Felly os oes genych deg cofnodion o daldra i’r crocws, adiwch y rhain at ei gilydd a rhannwch hefo deg i gael y rhif cymedrig.

Os oes gennych un blodyn hefo taldra o 200mm ac un blodyn hefo taldra o 350mm, fydd y rhif cymedrig yn 275mm. Ond, os oes gennych un blodyn hefo taldra o 200mm a deg hefo taldra o 350mm fydd y rhif cymedrig yn 336mm. Dyma pam mae’n bwysig i gofnodi pob cofnod blodau.

Mae pob cofnod blodau yn bwysig ac yn cael effaith ar y canlyniadau. Os nad yw eich planhigyn wedi tyfu erbyn diwedd mis Mawrth, plîs wnewch gofnod data heb ddyddiad na thaldra ac esboniwch pam yn y bwlch sylwadau. Os mae eich planhigyn yn tyfu, ond ddim yn blodeuo erbyn diwedd mis Mawrth, yna plîs cofnodwch daldra'r planhigyn, heb ddyddiad blodeuo, ac esboniwch hyn yn y bwlch sylwadau.

Cadwch y cwestiynau yn dod Cyfeillion y Gwanwyn! Mae 'na nifer o adnoddau ar y wefan i helpu hefo’r prosiect. Unwaith mae eich planhigyn wedi blodeuo, fedrwch greu llun ohono a defnyddio hyn i labelu'r rhannau o’r planhigyn! Hoffwn weld ffotograff o rain, a wnâi rhannu pob un sy’n cael ei yrru ata i ar fy blog nesaf!

Daliwch ati gyda’r gwaith called Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.