Slincosor a Big Pit Bingo! Ciara Hand, 15 Awst 2018 Da iawn i'r timau ddaeth i'r brig eleni!Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Tîm Buddugol Menter 2018. Ysgol Gyfun Bryn Celynnog – Tîm Buddugol Dewis y Bobl 2018. Am y 3 blynedd ddiwethaf, mae Amgueddfa Cymru wedi cynnal cystadleuaeth ar gyfer disgyblion sy'n cymryd rhan yn her Menter a Chyflogadwyedd (Cenedlaethol/Sylfaen) yr Amgueddfa.Briff yr Her yw creu cynnyrch arloesol ar gyfer siop yr Amgueddfa, sy'n adlewyrchu gwrthrychau a chasgliadau'r saith amgueddfa.Caiff y disgyblion gyfle i arddangos eu gwaith mewn digwyddiad arbennig.Cynhaliwyd digwyddiad eleni yn Atriwm newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Cyflwynodd disgyblion eu gwaith i banel o feirniaid. Fe wnaethon nhw hefyd greu arddangosiadau a chyflwyno'r cynnyrch i rai o ymwelwyr yr Amgueddfa.Dywedodd yr holl ddisgyblion y byddent yn argymell yr her i eraill. Bu'r disgyblion yn disgrifio'r sgiliau allweddol a ddatblygwyd, o waith tîm a meddwl i gyflwyniadau a chyfathrebu. “Fy hoff rhan oedd gweld beth oedd y cyhoedd yn meddwl am ein cynnyrch a clywed beth oedd ei farn am y cynnyrch”“My favourite part was w orking as a team and creating a product that we really enjoyed” “To answer the questions in the pitch required quick thinking skills.”Adborth y disgyblion Bu myfyrwyr o Goleg Caerdydd a'r Fro yn helpu i gynnal y digwyddiad fel rhan o'u Her Gymunedol Uwch. Roeddent yn gyfrifol am gynllunio ac arwain rhai o brif elfennau'r diwrnod, o logisteg a chefnogi disgyblion, i drefnu a chyflwyno Gwobr Dewis y Bobl, sef pleidlais ymwelwyr.“I believe it was a great experience as you interact with all different types of people and different ages.”Helena Vitoria, myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro “Once again, the National Museum competition proved a resounding success.”Sara Davies, Swyddog Bagloriaeth Cymru CA4 Cenedlaethol/Sylfaen | KS4 National/Foundation Welsh Baccalaureate Officer Mae nifer o adnoddau ar gyfer athrawon a disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr her ar wefan yr Amgueddfa: www.amgueddfa.cymru/addysg. sylw - (1) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. DREW 25 Ionawr 2022, 09:15 nice online bingo card game.