Casgliad Swffragét Prin yn Dod i Gymru
26 Gorffennaf 2018
,Ddoe, daeth casgliad arbennig i Gymru: esiampl brin iawn o wrthrychau sy'n adrodd hanes Swffragét Gymreig, Kate Williams Evans.
Kate Williams Evans - o ganolbarth Cymru i Garchar Holloway
Ganed hi yn Llansanffraid ym 1866, a datblygodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth wedi iddi deithio i Baris. Pan ddychwelodd i Gymru, ymunodd â’r Women’s Social and Political Union – ac yn erbyn ewyllys ei rhieni, daeth yn Swffragét.
Ar y 4ydd o Fawrth, 1912, arestiwyd hi ar gyhuddiad o ‘Malicious Damage’, a charcharwyd hi am 54 diwrnod yng Ngharchar Holloway. Yn y casgliad, mae llythyron sy’n manylu ar yr amgylchiadau yn Holloway, gan gynnwys disgrifiadau di-flewyn-ar-dafod o’r bwydo gorfodol a dioddefodd yno.
Ymprydio a Bwydo Gorfodol
Roedd bwydo gorfodol yn dacteg gyffredin, a ddefnyddwyd gan awdurdodau carchar ar fenywod oedd yn ymprydio. Daeth y mater yn bwnc llosg, a defnyddwyd disgrifiadau o fwydo gorfodol i greu propaganda llwyddiannus oedd o blaid achos y Mudiad Swffragét. Canolbwynt y casgliad a brynwyd gan Amgueddfa Cymru yr wythnos hon yw Medal Ympryd, a roddwyd i Kate i gydnabod yr hyn a ddioddefodd yn y carchar.
Hyd y gwyddom, dim on 100 o Fedalau Ympryd gafodd eu creu – ac mae’n debygol mai hon yw’r unig un a roddwyd i Swffragét o Gymru. Mae’r fedal yn ganolbwynt i’r casgliad, sy’n cynnwys llythyrau a ffotograffau. Am fod dogfennau sy’n olrhain hanes Swffragétiaid o Gymru mor brin, mae’r casgliad hwn o bwysigrwydd cenedlaethol – a bydd nawr yn rhan o gasgliadau Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Y Can Mlwyddiant a Thu Hwnt - Adrodd Stori Cymru
Mae’n naw deg mlynedd ers i fenywod gymryd yr hawl i bleidleisio, ac mae can mlynedd ers Deddf Gynrychioli’r Bobl – y ddeddf a alluogodd rai menywod i bleidleisio. Mae'r achlysur wedi rhoi cyfle i ni daro golwg dros ein casgliadau am y pwnc.
Mae nifer o’n casgliadau yn olrhain hanes ymgyrchwyr hawliau pleidleisio, gan gynnwys eu baneri nodweddiadol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth sydd wedi goroesi o’r mudiadau Swffragét yn brin iawn, felly roedd y cyfle hwn i brynu’r casgliad yn un arbennig a chyffrous. Bydd y casgliad hwn yn rhoi cyfle i ni ddweud stori fwy cyflawn – un bersonol a chenedlaethol.
Creu Hanes yn Sain Ffagan
Mae casgliad Kate Evans yn gaffaeliad pwysig ac amserol, gan fod orielau newydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar fin ail-agor, ynghyd â chyfleusterau astudio casgliadau newydd yng Nghanolfan Ddysgu Weston.
Mae orielau newydd Sain Ffagan yn agor ym mis Hydref, fel rhan o brosiect ail-ddatblygu uchelgeisiol, sydd wedi’i ariannu trwy gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ynghyd â Llywodaeth Cymru a rhoddwyr unigol.
sylw - (1)