Hafan y Blog

Llys Llywelyn: fframio'r gorffennol

Dafydd Wiliam, 6 Ionawr 2016

Cymerwch eiliad i gofio am ein seiri maen sydd wedi bod yn gweithio yn ddi-baid drwy'r tywydd oer diweddar. Maent yn ail-greu neuadd frenhinol o Ynys Môn ag adeiladwyd yn ystod y trydydd ganrif ar ddeg. Defnyddir rhai elfennau modern fel cymysgwyr calch a scaffaldwaith dûr, ond yn wir, bach iawn mae’r broses wedi newid ers yr oesoedd canol. Dim ond mater o osod un carreg ar ôl y llall nes cwbwlhau y gwaith. Mae waliau hir y neuadd wedi codi yw uchder gorffenedig ac mae’r ffenestri Normanaidd yn eu lle. Creuwyd ffurfwaith pren er mwyn dal cerrig y bwau nes i’r mortar galedu. Mi fydd y seiri yn cario ymlaen i godi talceni 9 medr yr adeilad nes bod y Carpenters Fellowship yn barod i godi’r ffrâm bren a fydd yn dal pwysau’r to.

Mae’r darlun ar y dde, a gynhyrchwyd gan Tim Potts o’r Carpenters Fellowship, yn rhoi cip olwg i ni o sut ddylai’r neuadd edrych ar ôl i’r ffrâm gael ei osod yn ei le. Mi fydd y ffrâm ynghyd a’r waliau cerrig yn ffurfio neuadd ystlys nodweddiadol o’r cyfnod. Mae cynllun y ffrâm yn cynnwys bwau hanner cylch a seiliwyd ar ddwy adeilad a oroeswyd: Palas yr Esgob yn Henffordd a neuadd Castell Caerlŷr. Seiliwyd y gwaith cerrig ar Llys Rhosyr yn Ynys Môn. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â https://amgueddfa.cymru/blog/2015-11-09/Palas-yr-Esgob-Henffordd/ neu https://amgueddfa.cymru/sainffagan/adeiladau/llys-llywellyn/. Mi fydd y ffrâm bren yn edrych yn hyfryd, ond cofiwch y bwriad yw ei beintio mewn patrymau Romanesg nodweddiadol fel 'zig-zags' amryliw.

Mae gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ail greu croglenni a chelfi o’r cyfnod. Un o elfennau mwyaf anodd y gwaith yma yw cyfuno dau fyd gwbl wahannol. Ar yr un llaw rydym yn ail-greu byd Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd 12001240 a pherchennog y llys yn Rhosyr. Ar y llaw arall rydym yn gorfod ateb gofynnion ein byd modern ni er mwyn cadw ymwelwyr a staff yn hapus a chytun. Heb os, hwn fydd y neuadd Gymreig gyntaf i gael system gwresogi tanllawr a system argyfwng o oleuo.

Dafydd Wiliam

Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.