Lleisiau’r Amgueddfa: Victoria Hillman
29 Mai 2025
,Victoria Hillman, Arweinydd Prosiect: Datblygu Cynaliadwy a Datgarboneiddio
Helo Victoria, allet ti gyflwyno dy hun a dweud ychydig wrthon ni am dy rôl yma yn Amgueddfa Cymru?
Siŵr iawn! Fe ges i ’ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, felly, fel llawer o bobl, fy atgofion cynharaf o Amgueddfa Cymru yw tripiau ysgol i Sain Ffagan a Big Pit! Roedd y profiadau trochi a gawson ni mor fyw ac yn ysbrydoliaeth – yn enwedig i blentyn pan mae’ch meddwl chi’n agored i bob posibilrwydd. “Ychydig” o flynyddoedd ar ôl y profiadau ffurfiannol hyn, roeddwn i’n ddigon ffodus i ymuno ag Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill 2024 fel Arweinydd Prosiect Datblygu Cynaliadwy a Datgarboneiddio. Mae fy ngwaith yn cwmpasu’r sefydliad i gyd, felly rwy’n rhyngweithio gyda phob safle amgueddfa a gyda phob tîm. Mae’n fraint cael gweithio gyda chymaint o wahanol bobl. Mae pob safle’n unigryw ac mae ’na gydweithwyr hynod o wybodus ar draws y sefydliad sy’n anhygoel o angerddol dros eu swyddi.
Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol ac am ysgogi gwelliannau mewn agweddau eraill perthnasol i gynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y sefydliad. Mae hyn yn amrywio o edrych ar arferion caffael, i’r ffordd mae arddangosfeydd yn cael eu cynllunio; o optimeiddio amodau amgylcheddol mewn orielau i hyrwyddo teithio llesol gyda staff a gwirfoddolwyr; o wella bioamrywiaeth i ddatgarboneiddio’r stad.
Yn ystod y 10 mis diwethaf, rydw i wedi gweithio’n rhan-amser hefyd ar agweddau cynaliadwyedd y Prosiect Ailddatblygu yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol. Mae’r gwaith dylunio wedi’i gwblhau erbyn hyn, a mis Mai yw’r mis pan fydd y safle’n cael ei drosglwyddo i gontractwyr er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau – mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r prosiect!
Fel dinasyddion y byd, rydyn ni’n gwybod pa mor hollbwysig yw cynaliadwyedd, yn ymarferol. Beth alli di ei ddweud wrthon ni am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Amgueddfa Cymru i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod ledled Cymru?
Pwmp gwres yn cael ei osod yn Sain Ffagan
Ie wir. Fe wnaeth Amgueddfa Cymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd ac argyfwng byd natur yn 2019. Rydyn ni wedi bod o ddifri yn ein hymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd ers blynyddoedd, ond ers y garreg filltir bwysig honno, rydyn ni wedi cynyddu’n hymdrechion ac wedi ysbrydoli eraill i ddilyn. Mae chwe ymrwymiad yn ein Strategaeth 2030, gan gynnwys “rhoi’r blaned yn gyntaf”. Yr ymrwymiad hwn yw sail ein dymuniad i gyfrannu at gyflawni sero net carbon gan sector cyhoeddus Cymru erbyn 2030. Ar draws y stad, rydyn ni wedi bod yn gweithio i leihau’r defnydd o danwydd ffosil trwy uwchraddio offer i fersiynau mwy effeithlon a disodli systemau gwresogi gyda dewisiadau trydan amgen (e.e. pympiau sy’n codi gwres o’r aer). Dros 5 mlynedd (2019/20 i 2023/24), mae’r defnydd o nwy naturiol wedi gostwng 36%.
Yn ogystal â datgarboneiddio’r stad, mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn llawn â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n rhaid i bob proses ac adroddiad mewnol ystyried y pum ffordd o weithio (Cydweithio, Integreiddio, Cynnwys, Atal a Hirdymor).
Rwyt ti’n sôn am ‘roi’r blaned yn gyntaf’; pa brosiectau sy’n digwydd ar draws ein hamgueddfeydd heddiw, sy’n ein helpu ni i greu Cymru gynaliadwy?
Dw i eisoes wedi sôn am y cynnydd mawr o ran datgarboneiddio’r stad ac mae’r gwaith hwnnw’n mynd yn ei flaen diolch i gyllid Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus. Rhwng Ionawr a Mawrth 2025, gosodwyd pympiau codi gwres o’r aer mewn wyth adeilad ar bedwar safle i ddisodli systemau gwresogi tanwydd ffosil (nwy naturiol, LPG ac olew). Mae ’na gynlluniau i wneud gwaith tebyg yn 2025/26, os caiff ceisiadau am gyllid eu cymeradwyo.
Ein Gardd Rufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Ar raddfa fwy, a mwy hirdymor, mae dau brosiect yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd a fydd yn sefydlu cynaliadwyedd yn y sector diwylliant dros y 5–10 mlynedd nesaf. Ailddatblygu Caerllion Rufeinig yw’r cyntaf, sy’n ymdrech ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd. Nod y prosiect yw gwneud y mwyaf o botensial treftadaeth Rufeinig Caerllion tra’n gwella profiad ymwelwyr a denu mwy o bobl. Un allwedd i lwyddiant y prosiect fydd sicrhau bod digon o waith yn cael ei wneud er mwyn addasu’r safleoedd i’r effeithiau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Ac yn yr un modd, yr ail brosiect lle bydd hi’n allweddol canolbwyntio ar addasu safle i’r newid hinsawdd yw ailddatblygiad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyw hi ddim yn gyfrinach bod yr adeilad 100 mlwydd oed wedi profi heriau yn ddiweddar a does dim ateb syml. Mae tîm amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu i gynllunio’r ffordd orau ymlaen er mwyn gwarchod a moderneiddio’r adeilad hardd ac eiconig hwn.
O safbwynt pobl, y prosiect mewnol gwirioneddol bwerus yw cyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon. Dechreuodd hyn yn ôl yn 2018 gyda chriw bach o unigolion ymroddgar, ac erbyn hyn mae cannoedd o aelodau staff yn cael eu hyfforddi ac yn ennill tystysgrif llythrennedd carbon. Un o brif fanteision yr hyfforddiant Llythrennedd Carbon yw ei fod yn annog newid ymddygiad gartref yn ogystal ag yn y gweithle – mae aelodau staff sydd wedi dilyn y cwrs yn gweld hyn fel pwynt gwerthu cryf.
Yn fwy cyffredinol, mae gwaith dyddiol ar draws yr amgueddfa’n cyfrannu at Gymru fwy cynaliadwy. Mae Curaduron y Gwyddorau Naturiol yn gwneud gwaith ymchwil arloesol, yn disgrifio rhywogaethau ac yn monitro rhywogaethau goresgynnol; mae Curaduron a Chadwraethwyr yn cadw ac yn dehongli eitemau fel y gallan nhw gael eu deall gan ymwelwyr heddiw a’u mwynhau gan ymwelwyr y dyfodol; mae’r Tîm Dysgu’n darparu adnoddau i ysbrydoli ac ysgogi meddyliau holgar; mae’r Tîm Ymgysylltu’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleon hygyrch a chynhwysol i bobl o bob cwr o Gymru; mae’r tîm Profiad Ymwelwyr yn defnyddio’u gwybodaeth helaeth i ateb cwestiynau a thanio dychymyg ymwelwyr... Mae’n rhestr hirfaith.
Mae ganddon ni Ddiwrnod Bioamrywiaeth y Senedd, Diwrnod Rhywogaethau mewn Perygl, Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth a Diwrnod Gwenyn y Byd, i enwi dim ond ychydig, wedi’u hamlygu yn ein dyddiaduron y mis yma! Beth allwn ni ei wneud, fel casgliad o saith amgueddfa genedlaethol ac un ganolfan gasgliadau, ar y dyddiadau allweddol hyn?
Cynnal Cynhadledd Gweithredu 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae mis Mai yn sicr yn fis prysur o ran dathlu byd natur! Mae dyddiau o’r fath yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar ymgyrchoedd penodol ac, yn bwysicach, i gydweithio gyda gweithwyr mewn sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Yn reit aml, amcanion tebyg sydd gan unigolion, ond heb ddylanwad neu gyfeiriad ar eu pen eu hunain. Drwy uno (ac mae ’na lawer o sefydliadau gwych ledled Cymru), rydyn ni’n gryfach ac yn gallu canolbwyntio ar dargedau. Fu hyn erioed yn fwy amlwg nag yn yr Uwchgynhadledd Gweithredu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i nodi rhyddhau Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025. Diwrnod i’n hysbrydoli oedd hwn, yn cadarnhau’r ffaith bod natur, diwylliant ac economi llesiant yn hanfodol i greu’r Gymru yr hoffem ni i gyd ei gweld.
Mae pobl yn ein hadnabod am ein hamgueddfeydd dan do ac awyr agored, ond efallai nad ydyn nhw’n gwybod am ein gerddi a’n dolydd gwyllt! Dwed rywbeth wrthon ni am y rhain.
Gwirfoddoli yn garddio yn ardd GRAFT, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Oes – mae ganddon ni erddi, dolydd, coedlannau a chynefinoedd tir gwyllt hyfryd hardd ar draws stad yr amgueddfa. Amgueddfa Werin Sain Ffagan yw’r safle gyda’r mwyaf o le agored – a dyma ganolfan ein Tîm Garddio. Mae’r Tîm Garddio’n creu ac yn gofalu am erddi ffurfiol yn y tir o amgylch Castell Sain Ffagan ac yn y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi cyflwyno dulliau amgylcheddol gyfeillgar fel plannu planhigion lluosflwydd yn hytrach nag unflwydd, casglu dŵr glaw at ddibenion dyfrhau, defnyddio compost di-fawn a newid o offer sy’n rhedeg ar danwydd ffosil i ddewisiadau amgen trydan. Yn Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig, mae’r Tîm Dysgu wedi ail-ddychmygu gardd Rufeinig, tra’n sicrhau bod digon o rywogaethau’n bresennol i ddenu peillwyr.
#NoMowMay yn Amgueddfa Wlân Cymru
A sôn am beillwyr, mae pob un o safleoedd yr amgueddfa’n gefnogwyr brwd i ymgyrch Mai Di-Dor ac fe blannwyd blodau gwyllt yn y ddôl drefol ger Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac mewn tri lle yn Sain Ffagan yn gynharach eleni. Mae’r ardd ‘Graft’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n falch o gyfuno cynhyrchu bwyd gyda thyfu rhywogaethau cyfeillgar i beillwyr. Mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi’i lleoli wrth Nant Bargod ac mae’r ddôl orlif yn y fan honno’n llawn bywyd – planhigion ac anifeiliaid. Mae llwybr addas i deuluoedd wedi’i greu er mwyn annog pobl i archwilio mwy!
Ac i gloi, rydyn ni wedi cadw’r gorau tan y diwedd. Pa un ydi dy hoff ddarn yn ein casgliad?
Dyna gwestiwn anodd, ac mae’n amhosibl ei ateb wrth gwrs! Rwy wrth fy modd gyda hen beiriannau diwydiannol – yn enwedig pan maen nhw’n dal i weithio. Mae enghreifftiau gwych o hyn i’w gweld ar draws y sefydliad – yn Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lofaol Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae’r eitemau diwydiannol yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn wych hefyd ac yn gymysgedd eclectig go iawn – fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan storfeydd amgueddfa genedlaethol!
Trilobit o’n casgliad
Ond os oes raid dewis un eitem, mae oriel Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn agos at fy nghalon. Geowyddoniaeth Amgylcheddol oedd pwnc fy ngradd ac rwy’n dwlu ar brosesau naturiol – tectoneg platiau, ceryntau’r cefnforoedd, ffurfiant creigiau, amrywiaeth bywyd ar y Ddaear a’i allu i ymgyfaddasu... Fy hoff gasgliad felly, o raid, fyddai’r ffosiliau trilobit, a’r hoff eitem unigol fyddai ôl gên Megalosawrws, a gafodd ei ddarganfod ger Pen-y-bont ar Ogwr ym 1898. Mae’n hynod o gyffrous dysgu bod cigysyddion enfawr yn arfer crwydro’r tir sydd bellach yn gartref i ni!
Argraffiad o ên Megalosaurus