Digi Dig 1926! - Llwybr Darganfod Rhufeinig Danielle Cowell, 13 Awst 2019 Dewch i ailddarganfod trysor Rhufeinig ddaeth i’r fei yng Nghaerllion ym 1926!Defnyddiwch yr Ap i archwilio'r Amffitheatr a'r Barics yng Nghaerllion. Dilynwch gliwiau a chwrdd â chymeriadau hanesyddol i helpu chi i ddarganfod trysorau'r Amgueddfa - lle cawsant eu darganfod un wreiddiol. Os dewch o hyd iddynt i gyd byddwch yn agor rhith-Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Mae'r Ap hwn yn brosiect partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Cadw. Mae'n cysylltu trysorau amgueddfeydd â'r lleoedd lle cawsant eu darganfod yn y safleoedd hanesyddol a gynhelir gan Cadw yng Nghaerleon. Sut i chwarae: Defnyddiwch eich dyfais a'r map trysor i ganfod y chwe chliw cudd yn yr amffitheatr a'r barics. Rhaid i chi gerdded i bob un o'r chwe chliw llun yn y grid. Pan fyddwch chi'n agosáu at y man iawn bydd ceiniog yn ymddangos ar eich dyfais. Pwyswch y geiniog i weld y cliw a chasglu pob ateb i ganfod yr allwedd sy'n agor yr Amgueddfa Lleng Rufeinig Rithwir. Cwestiynau Cyffredin Mae'r ap yn gweithio orau ar Android 4.3 a'r iOS 9.1 neu yn hwyrach. Ni fydd yr ap yn gweithio ar rai ffonau android syml. Mae'r ap yn defnyddio data yn ystod y profiad Os ydych yn cael trafferth lawrlwytho'r ap, sicrhewch fod gennych gysylltiad gwe da a digon o le ar eich ffôn. Addasrwydd: TeuluoeddHud: 30-50munedDownload for iPhone Download for Android