5 Hoff Beth Dippy am Gaerdydd Diplodocus carnegii, 14 Ionawr 2020 Y pâr priod hapus© Sadie Osborne Photography, sadie-osborne.squarespace.com Shwmae bawb, Dippy sy' 'ma! Dwi wir wedi mwynhau fy amser yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae pawb mor gyfeillgar a dwi wedi mwynhau cwmni da mewn digwyddiadau cyffrous iawn. Mae gen i ormod o lawer o straeon ar gyfer un blog, felly dyma fy 5 hoff beth. 1) Dysgu Cymraeg Pan gyrhaeddais i Gaerdydd, doedd gen i ddim llawer o Gymraeg, ond diolch i staff hyfryd yr Amgueddfa, wnes i ddysgu yn gyflym! Dwi wedi cael digonedd o gyfleoedd i ymarfer fy Nghymraeg gydag ymwelwyr, a dwi wedi bod yn trydar yn ddwyieithog o fy nghyfri Twitter @DippyOnTour. 2) Digwyddiadau DippyPan glywais i y bydden i'n rhannu'r neuadd fawr gyda digwyddiadau fel disgos distaw a yoga, roeddwn i'n poeni y bydden i yn y ffordd. Ond, dwi wedi mwynhau bod yng nghanol yr hwyl ac hyd yn oed wedi bod yn rhan o briodas Gymreig am y tro cyntaf! Y pâr priod hapus© Sadie Osborne Photography, sadie-osborne.squarespace.com 3) Mwynhau byd naturAr fy nhaith o gwmpas y DU, rwy'n benderfynol o annog pawb i archwilio'r byd natur o'u cwmpas. Dyw hynny ddim yn anodd yng Nghaerdydd – mae mwy o fannau gwyrdd y pen yma nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU. Dwi wedi joio mas draw yn darganfod parciau newydd bob dydd! Cer i fy ngwefan i weld sut i fwynhau natur yn dy ardal leol di. 4) Fy ffrind newyddDoeddwn i ddim yn gwybod bod deinosoriaid eraill yng Nghymru, ond buan iawn y ces i gwrdd â Dracoraptor – deinosor gafodd ei ddarganfod dafliad carreg o Gaerdydd. I ddechrau, roeddwn i'n genfigennus o enw diddorol Dracoraptor, ei ystyr yw 'draig-leidr'! Ond fe ddaethon ni'n ffrindiau mewn dim amser. Model o Dracoraptor© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales 5) TI!Y peth gorau am Gaerdydd heb os yw'r holl bobl anhygoel dwi wedi cwrdd â nhw. Fydda i yma tan 26 Ionawr felly cofiwch ddod draw a rhannwch eich hunluniau gan ddefnyddio #DippyArDaith a #DippyOnTour.