Mae cofnodion blodau yn bwysig
24 Chwefror 2020
,Helo Cyfeillion y Gwanwyn,
Gobeithio gwnaeth pawb mwynhau'r gwyliau. Wnaeth eich planhigion blodeuo dros hanner tymor? Cofiwch i gofnodi'r dyddiad mae eich planhigyn yn blodeuo a’r taldra yng milimetr i’r wefan. Mae’n bwysig cofnodi'r wybodaeth hon ar gyfer pob planhigyn, oherwydd bydd hyn yn effeithio ar y dyddiad blodeuo cyfartalog ar gyfer eich Ysgol.
Mae ysgolion syn cymryd rhan yn ymchwiliad ychwanegol yr Edina Trust hefyd yn cofnodi os yw’r Cennin Pedr wedi eu plannu yn y ddaear neu mewn pot.
Rydym o hyd yn siarad am y cofnodion tywydd rydych yn cadw pob wythnos, ond mae’r cofnodion blodau yn bwysig hefyd. Mae'r ymchwiliad yn edrych ar effaith mae newid yn yr hinsawdd yn cael ar flodeuo planhigion y Gwanwyn. I wneud hyn mae'n rhaid i ni gymharu'r dyddiau blodeuo cyfartalog ar gyfer pob blwyddyn o’r ymchwiliad.
Mae’r siart bar isod yn dangos y dyddiad blodeuo cyfartalog ar gyfer pob blwyddyn o’r prosiect. Llynedd welodd y dyddiad blodeuo cyfartalog cynharach ers 2008. Wyt ti’n meddwl bydd ein planhigion yn blodeuo yn gynharach neu’n hwyrach blwyddyn yma?
Mae’r siart bar isod yn dangos y dyddiad blodeuo cyfartalog ar gyfer pob ardal ym 2019. Mae’n dangos a blodeuodd planhigion yn gynharach yn Ogledd Iwerddon ac yn hwyrach yn Yr Alban. Wyt ti'n meddwl byddwn yn gweld yr un patrwm eto blwyddyn yma?
Gwyliwch eich planhigion yn agos dros y wythnosau nesaf. 22 Chwefror oedd y diwrnod blodeuo cyfartalog ar gyfer y crocws yng 2019.
Mae’n ddiddorol i weld sut mae ein planhigion yn datblygu dros amser. Mae gweithgareddau am fywyd planhigion ar gael ar y wefan: https://amgueddfa.cymru/bylbiau-gwanwyn/
Cofiwch i rannu eich lluniau Cyfeillion y Gwanwyn.
Athro’r Ardd