Hafan y Blog

Gwaith Garddio Hanfodol yn Parhau yn Ystod y Cyfyngiadau Symud

Juliet Hodgkiss, 27 Ebrill 2020

Efallai fod pawb yn gaeth i’w cartrefi, ond mae natur yn ffynnu, a’r planhigion angen sylw. Wrth i erddi ar draws Cymru gael mwy o sylw nag erioed, mae gwaith tîm Uned Gerddi Hanesyddol Amgueddfa Cymru yn parhau, gystal â sy’n bosibl. Dyma Juliet Hodgkiss, sy’n gofalu am erddi hyfryd Sain Ffagan, i ddweud mwy:

I gadw pellter diogel yn ystod y pandemig, mae pob aelod o’r tîm yn gweithio un diwrnod yr wythnos i wneud gwaith garddio hanfodol. Gan mai dim ond un garddwr sydd yn y gwaith ar unrhyw adeg, gallwn ynysu’n llwyr, gan ddiogelu’r tîm a phawb arall. Un o’r swyddi pwysicaf yw plannu a gofalu am ein casgliad o datws treftadaeth. Rhoddwyd y tatws hyn i’r Amgueddfa dros ugain mlynedd yn ôl gan y Scottish Agricultural Science Agency. Fel gwrthrych byw, rhaid tyfu’r tatws hyn bob blwyddyn er mwyn cynhyrchu hadau ar gyfer y flwyddyn wedyn. Mae ein casgliad yn cynnwys y Lumper, y daten oedd yn tyfu yn Iwerddon adeg y newyn mawr. Mae’r Lumper yn tyfu yng ngerddi Nantwallter a Rhyd-y-car. Rydym hefyd yn tyfu Yam, Myatt’s Ashleaf, Skerry Blue a Fortyfold, pob un yn deillio o’r 18fed a’r 19eg ganrif.

Y gaeaf hwn buom yn plannu llawer o goed newydd yn y Gerddi, yn lle’r rhai a gollwyd, er budd ymwelwyr a bywyd gwyllt. Ychwanegwyd pedair merwydden newydd i’r Ardd Ferwydd; sawl rhywogaeth o ddraenen wen, criafol a phren melyn i’r terasau; tair cerddinen wen, coeden katsura, masarnen ‘snakebark’, a merysbren wen ger y pyllau; coed afalau surion ym Mherllan y Castell; ac amrywiaeth o rywogaethau brodorol ar gyfer coedlannu yn y dyfodol. Mae’r gwanwyn yn gynnes a sych eleni, felly mae angen dyfrio’r holl goed hyn i’w cadw’n fyw. Mae llawer ohonynt wedi’u plannu yn bell o dap dŵr, felly mae tipyn o waith cario caniau dyfrio.

Rydym hefyd yn cadw planhigion y tai gwydr a’r meithrinfeydd yn fyw. Mae llawer o’r planhigion hyn yn brin neu’n unigryw i Sain Ffagan. Maen nhw’n cynnwys dau o ddisgynyddion ein ffawydden rhedynddail ac eginblanhigion o binwydden a gollwyd mewn storm ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae angen dyfrio’r rhain bob dydd adeg yma’r flwyddyn. Yn y gwanwyn byddwn yn ailbannu’r gwelyau a’r borderi, ac yn llenwi bylchau’r planhigion fu farw dros y gaeaf. Doedd dim amser i blannu’r holl blanhigion a archebwyd yn y misoedd cyn i ni gau, felly’r nod yw ceisio’n gorau i’w cadw’n fyw a phlannu cynifer â phosibl tra’r ydyn ni’n gweithio efo llai o staff.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.