Gerddi Chwarelwyr yn Blodeuo ac yn Datgelu eu Hanes
30 Ebrill 2020
,Mae gerddi Tai’r Chwarelwyr yn Amgueddfa Lechi Cymru yn rhan boblogaidd o brofiad ymwelwyr â’r safle – ond nid edrych yn hardd yw unig bwrpas y planhigion, maen nhw yno hefyd i roi ychydig o hanes y chwarelwyr a’u teuluoedd.
Mae’r ardd yn cael ei thrin gan dîm gweithgar o Gyngor Gwynedd, sy’n ymweld o’u canolfan ym Melin Glanrafon, Glynllifon. Mae’r tîm yn rhan o adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor, ac mae’n cynnig hyfforddiant a phrofiadau i oedolion ag anghenion dysgu. Mae’r tîm yn gofalu am yr ardd drwy gydol y flwyddyn, i sicrhau ei bod mewn cyflwr da ar gyfer yr ymwelwyr.
Dyma Cadi Iolen, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru yn egluro mwy am hanes y bythynod a'u gerddi:
“Symudwyd Tai’r Chwarelwyr o Danygrisiau i’r Amgueddfa Lechi 21 mlynedd yn ôl. Mae pob tŷ yn adlewyrchu cyfnod gwahanol yn hanes y diwydiant llechi – o 1861 yn Nhanygrisiau tua dechrau oes aur y chwareli, i dŷ yn ystod Streic Fawr y Penrhyn ym 1901, a Llanberis ym 1969, pan gaewyd Chwarel Dinorwig am y tro olaf.
Cawsom gyngor gan y prif arddwr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, wnaeth amlinellu beth ddylen ni ei blannu ymhob gardd i adlewyrchu amodau byw’r cyfnod. Wedi hynny, bu’r garddwyr wrthi’n brysur yn plannu.
Mae gan dŷ 1861 ardd berlysiau yn cynnwys ffenigl, mint ac eurinllys. Mae gardd 1901 yn fwy ymarferol, gyda gardd lysiau yn y tu blaen a’r cefn gan y byddai teuluoedd angen plannu eu bwyd eu hunain mewn adeg o dlodi. Erbyn 1969, mae’r gerddi’n fwy addurniadol gyda blodau fel begonias a phlanhigion lliwgar eraill, yn debyg i’n gerddi ni heddiw. Rydyn ni hefyd yn tyfu tatws a riwbob yng nghefn y tŷ addysg. Mae’r actorion preswyl yn defnyddio’r rhain, a chânt eu coginio yn y caffi o bryd i’w gilydd.”
sylw - (1)
I love the fact that you are working with adults with learning difficulties. I too worked with individuals with learning difficulties and taught gardening. What a fantastic story you share. I am inspired. Blessings on you as you continue.