Blancedi Cymreig - Harddwch, Cynhesrwydd, ac Atgof o Adref
5 Mai 2020
,Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre yn gartref i gasgliad cynhwysfawr o offer a pheiriannau sy'n ymwneud â hanes prosesu cnu gwlân yn frethyn. Mae yno hefyd gasgliad tecstilau gwastad cenedlaethol a'r casgliad gorau o flancedi gwlân Cymreig gyda lleolbwynt wedi'i dogfennu sy'n dyddio'n ôl i'r 1850au. Mae'r rhain yn amrywio o flancedi tapestri brethyn dwbl mawr sydd bellach yn gasgladwy iawn, i flancedi iwtiliti sengl, gwyn o'r Ail Ryfel Byd. Yn y blog hwn, mae Mark Lucas, Curadur Casgliad y Diwydiant Gwlân ar gyfer Amgueddfa Cymru, yn rhannu ei wybodaeth am dreftadaeth blancedi Cymreig a rhai enghreifftiau gwych o'r casgliad pwysig hwn.
Yn draddodiadol roedd blancedi Cymreig yn rhan o ddrôr waelod priodferched. Roedd pâr o flancedi Cymreig hefyd yn anrheg briodas gyffredin. Byddent yn teithio pellteroedd mawr gyda’u perchnogion yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, wrth iddynt chwilio am waith. Felly, mae blancedi Cymru wedi ffeindio’u ffordd ledled y byd, gan ychwanegu ychydig o esthetig cartrefol i ystafell yn ystod y dydd, cynhesrwydd yn y nos a chysylltiad pwysig i adref.
Blancedi Lled Cul
Blancedi lled cul oedd y cynharaf, wedi'u gwehyddu ar wŷdd sengl. Fe'u gwnaed o ddau led gul wedi'u gwnïo gyda’i gilydd â llaw i ffurfio blanced fwy. Blancedi gwŷdd sengl o'r math hwn oedd yn gyffredin cyn troad yr ugeinfed ganrif pan ddatblygwyd gwŷdd dwbl a oedd yn galluogi gwehyddu lled ehangach o ffabrig. Fodd bynnag, ni throsodd llawer o'r melinau llai i’r gwŷdd dwbl, ac o ganlyniad, roedd blancedi lled cul yn parhau i gael eu cynhyrchu mewn symiau sylweddol yn ystod y 1920au, 30au a hyd yn oed yn ddiweddarach.
Blancedi Plad
Roedd patrymau plad yn boblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel arfer yn cynnwys lliwiau cryf yn erbyn cefndir hufen naturiol. Roedd cyflwyno llifynnau synthetig ar ddiwedd y 19eg ganrif yn caniatáu i wehyddion gymysgu mwy o edafedd lliw i'r dyluniadau, gyda rhai cyfuniadau lliw yn gynnil, eraill yn drawiadol. Parhaodd llawer o felinau llai i ddefnyddio llifynnau naturiol ymhell i'r 20fed ganrif. Gwnaed y llifynnau naturiol o fadr a cochineal ar gyfer coch, glaslys ac indigo ar gyfer glas, ac aeron a chen amrywiol ar gyfer arlliwiau eraill. Mae gan yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol ei gardd llifyn naturiol ei hun ac mae'n cynnal cyrsiau a sgyrsiau trwy gydol y flwyddyn ar liwio naturiol.
Blancedi Tapestri
Tapestri Cymru yw'r term sy'n cael ei rhoi i flancedi gwehyddu brethyn dwbl, gan gynhyrchu patrwm ar y ddwy ochr sy'n gildroadwy ac sydd erbyn hyn, yn eicon i ddiwydiant gwlân Cymru. Mae enghreifftiau o flancedi tapestri Cymru wedi goroesi o'r ddeunawfed ganrif ac mae llyfr patrwm o 1775 gan William Jones o Holt yn Sir Ddinbych, yn dangos llawer o wahanol enghreifftiau o batrymau tapestri. Blancedi wnaed gyntaf o frethyn dwbl, ond arweiniodd ei lwyddiant fel cynnyrch ar werth i dwristiaid yn y 1960au, at ei ddefnyddio i wneud dillad, matiau bwrdd, matiau diod, nodau tudalen, pyrsiau, bagiau llaw a chas sbectol. Oherwydd gwydnwch y gwehyddu brethyn dwbl, mae'r deunydd hefyd wedi'i ddefnyddio ar gyfer rygiau cildroadwy a charpedu.
Blancedi Melgell
Mae blancedi melgell yn gymysgedd o liwiau llachar a meddal. Fel y mae'r enw'n awgrymu mae'r wyneb wedi'i wehyddu i gynhyrchu effaith waffl sgwâr dwfn gan roi ymddangosiad melgell i'r flanced. Mae'r math hwn o wehyddu yn cynhyrchu blanced sy'n gynnes ac yn ysgafn.
Gyda'r sylw presennol a rhoir i flancedi Cymreig fel eitem addurniadol yn y cartref, mae yna lawer o ddiddordeb mewn hen flancedi, eu patrymau, a’u dyluniadau. Mae blancedi hynafol wedi dod yn boblogaidd iawn gyda dylunwyr cartref ac maent i'w gweld yn helaeth mewn cylchgronau décor cartref. Fe'u defnyddir fel tafliadau a gorchuddion gwelyau mewn cartrefi modern, gyda llawer o ddylunwyr tecstilau blaenllaw yn ogystal â myfyrwyr yn ymchwilio i hen batrymau er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau newydd.
Daw llawer o’r enghreifftiau gwych yng nghasgliad blancedi’r Amgueddfa o felinau ledled Cymru a roddodd y gorau i’w cynhyrchu ers talwm. Uchafbwynt yw'r casgliad o Flancedi Caernarfon. Cynhyrchwyd y rhain ar wyddiau Jacquard mewn ystod o liwiau. Dim ond ychydig o felinau a ddefnyddiodd wyddiau Jacquard, a all wneud dyluniadau a lluniau cymhleth. Mae blancedi Caernarfon yn dangos dau lun, un gyda Chastell Caernarfon gyda'r geiriau CYMRU FU a llun o Brifysgol Aberystwyth gyda'r geiriau CYMRU FYDD. Credir i'r blancedi hyn gael eu gwneud gyntaf yn y 1860au, a'u cynhyrchu diwethaf ar gyfer arwisgiad y Tywysog Siarl ym 1969. Mae rhodd ddiweddar i'r Amgueddfa yn enghraifft gynharach o'r flanced sy'n cynnwys dwy ddelwedd o gastell Caernarfon. Wedi'i wehyddu â llaw, mae'n cynnwys gwall sillafu – gyda Chaernarfon yn ffurf Saesneg yr enw: Carnarvon.
sylw - (2)