Diwrnod Plannu 2020 Penny Dacey, 19 Hydref 2020 Helo Cyfeillion y Gwanwyn, Bydd ysgolion o ardraws y DU yn plannu eu bylbiau mor agos at 20 Hydref ag posib. Mae hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o ysgolion yn plannu eu bylbiau yfory! Cliciwch yma am adnoddau i'ch paratoi ar gyfer diwrnod plannu ac am wybodaeth ar sut i ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf! Bydd yr adnoddau hyn yn help ar gyfer diwrnod plannu: • Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich bylbiau) • Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg) A dyma weithgareddau hwyl i gwblhau: • Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau • Creu Labelai Bylbiau Plîs darllenwch y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r cennin Pedr a chrocws wedi eu plannu? Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu a rhannu'r rhain i gystadlu yn y Gystadleuaeth Diwrnod Plannu! Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld digwyddiadau diwrnod plannu yn ysgolion eraill. Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd! Athro'r Ardd a Bwlb Bychan Penny Dacey Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion Cysylltwch â Penny Dacey Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.