Cacennau Blasus, Rhamantus yn barod ar gyfer Dydd Santes Dwynwen
20 Ionawr 2021
,Mae'n Ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr, y diwrnod pan rydyn ni'n dathlu cariad yma yng Nghymru. Rhag ofn eich bod ar wahan oddi wrth anwylyd yn ystod y cyfnod clo hwn, rydyn ni'n rhannu’r rysáit hon yn gynnar er mwyn i chi gael cyfle i'w danfon yn y post. Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rydyn ni'n anfon cwtch mawr Covid- ddiogel atoch o'r amgueddfa.
Daw'r rysáit hyfryd hon wrth ein tîm arlwyo yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre.
Pice Bach Siap Calon
CYNHWYSION:
Blawd hunan-godi 1 lb
Menyn 8oz
Siwgr caster 6oz
2 wy
2 lond llaw o gyrens - neu llugaeron os ydych chi am ychwanegu tipyn o liw coch ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen!
Menyn ychwanegol ar gyfer seimio
DULL:
1. Hidlwch y blawd mewn i fowlen ac ychwanegwch y menyn wedi'i ddeisio.
2. Rhwbiwch â'ch bysedd, neu mewn prosesydd bwyd, nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara.
3. Ychwanegwch y siwgr, y cyrens / llugaeron a'r wyau wedi'u curo a'u cymysgu'n dda i ffurfio pelen o does, gan ddefnyddio sblash o laeth os oes angen.
4. Rholiwch y toes allan ar fwrdd â blawd arno i drwch o tua 5mm / ½ modfedd.
5. Torrwch y toes gyda thorrwr siap calon 7.5–10cm / 3-4in.
6. Rhwbiwch lech neu radell haearn trwm â menyn, sychwch unrhyw ormodedd a'i roi ar yr hob nes ei fod yn cael ei gynhesu drwyddo.
7. Coginiwch y picie bach ychydig ar y tro am 2–3 munud ar bob ochr, neu nes eu bod yn frown euraidd.
8. Tynnwch o'r radell a taenwch siwgr mân trostynt tra’n gynnes.
Mwynhewch!!