CYSTADLEUAETH! Creuwch a Traddodwch stori wedi eu Hysbrydoli gan y Ffrog Briodas hon. Angharad Wynne, 1 Chwefror 2021 Mae'n Wythnos Genedlaethol Storïo !! Er mwyn ei ddathlu, rydyn ni'n eich gwahodd i greu a dweud stori wrthym .... am y ffrog briodas hon!Byddwn yn adrodd mwy o hanes y ffrog yma ar ddiwedd y gystadleuaeth, gan nad ydym am gyfyngu ar eich creadigrwydd na dylanwadu ar eich syniadau, ond efallai y byddai gennych ddiddordeb gwybod ei bod wedi'i gwneud o frethyn cain, wedi'i brynu ym 1974, pan oedd ein hamgueddfa yn dal i fod yn felin wlân weithredol o'r enw Melin Cambrian. Bydd yr enillydd yn derbyn Carthen Cymraeg wlân ddwbl, a wnaed ar ein safle amgueddfa gan Melin Teifi. Mae nifer o ddewisiadau lliw ar gael. Bydd y gwehydd stori orau yn ennill blanced Gymraeg ddwbl hardd, draddodiadol, a wnaed gan Melin Teifi ar ein safle amgueddfa. Yn draddodiadol, rhoddwyd y blancedi hyn fel anrheg briodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd.SUT I GYSTADLU:Mae'r grefft o adrodd straeon yn un hynafol yma yng Nghymru. Cafodd ei ymarfer gan Gyfarwyddion yn llysoedd ein brenhinoedd ac arglwyddi yn ogystal ag wrth dan yr efail ac ar aelwydydd ledled y Genedl. I anrhydeddu'r traddodiad hwn, ar gyfer wythnos adrodd straeon, rydyn ni'n gofyn i chi DDWEUD stori, yn hytrach nag ysgrifennu un i lawr. Mae croeso i chi ymgeisio trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg. Felly,1. Breuddwydiwch, dychmygwch a meddyliwch trwy stori fer, wreiddiol, a ysbrydolwyd gan y ffrog briodas hon o'n casgliad. Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi nodi ychydig o bwyntiau i strwythuro’r stori.2. Ymarferwch DWEUD y stori, ac amserwch eich hun i sicrhau ei bod DAN 2 FINUD O HYD. Ni fyddwn yn derbyn straeon sy'n mynd dros amser.3. Pan fyddwch chi'n teimlo'n hyderus, ffilmiwch eich hun yn adrodd y stori mewn llai na 2 funud. Nid oes angen iddo fod yn ffansi, bydd ffilm ar gamera ffôn yn hollol dderbyniol. Fel arall, allech chi recordio'ch hun yn siarad y stori (dim mwy na 2 funud o hyd) ac anfon y recordiad sain atom. Fodd bynnag, peidiwch â DARLLEN stori I ni. Mae gwahaniaeth mawr rhwng traddodi stori ar lafar a'i darllen. 4. Pan fydd gennych recordiad ffilm / sain rydych chi'n hapus ag ef, anfonwch e dros e-bost atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad yma: stori@amgueddfacymru.ac.uk Yn draddodiadol, rhoddid y blancedi yma'n anrhegion priodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd. DYDDIAD CAU’R GYSTADLEUAETH: DYDD MERCHER 10 CHWEFROR am 15:00. Am delerau ac amodau cystadlu, gwelwch isodByddwn yn rhannu'r 5 stori orau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Ddydd San Ffolant, ac yn cyhoeddi'r enillydd y prynhawn hwnnw. CYNGOR AM RECORDIO EICH STORI YN DEFNYDDIO FFÔN SYMUDOL / TABLET / GLINIADUR / CYFRIFIADUR BEN-DESGGoleuo- Defnyddiwch olau naturiol: y tu allan neu wrth ymyl y ffenestr gyda'r golau ar eich wyneb.- Ceisiwch osgoi cael golau’r tu cefn i chi, megis ffenestr, lampau, teledu ayyb. Fframio a Lleoli- Ffilmiwch gan ddefnyddio fformat tirwedd, yn hytrach na portred.- Cadwch eich ffôn mor llonydd ag y gallwch trwy ddefnyddio tripod neu ei orffwys ar wyneb cyson. Cisiwch osgoi ffilmio â llaw. Cofnodi ar Gliniadur neu Gyfrifiadur Ben-desg- Cychwynwch Zoom, Tims, Skype, FaceTime ac ati gan sicrhau eich bod chi'n gallu gweld eich hun, yna dechreuwch QuickTime Player. Defnyddio nodwedd cipio sgrin gyda QuickTime Player- O fewn y rhaglen: File, “New Screen Recording”, pwyswch botwm recordio coch i ddechrau recordio.- Pwyswch y botwm stopio i ddiweddu'r recordiad.- Safiwch y ffeil: Ffeil, “Export As”, 1080p, teitl y fideo, dewis lleoliad y ffeil, “Save”. Telerau ac Amodau· Yr Hyrwyddwr yw: Amgueddfa Genedlaethol Cymru / the National Museum of Wales (Rhif Elusen: 525774) sydd â’i swyddfeydd cofrestredig ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.· Ni chaiff gweithwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru na aelodau'r teulu, neu unrhyw un arall sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth mewn unrhyw fodd, gystadlu.· Nid oes tâl mynediad i'r gystadleuaeth ac nid oes yn rhaid gwneud unrhyw bryniad i gystadlu.· Ni fydd unrhyw ymgais sy’n rhoi ymgeisydd, staff neu unrhyw berson arall mewn perygl yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw anaf neu niwed corfforol i ymgeiswyr neu unrhyw berson arall wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.· Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, ac unrhyw berson arall presennol, tra’u bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.· Dyddiad cau’r gystadleuaeth fydd Mercher, 10 Chwefror am 15.00. Wedi’r dyddiad hwn ni chaiff ceisiadau pellach eu derbyn.· Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau nas derbynnir, am unrhyw reswm. Nid yw prawf anfon yn brawf fod y cais wedi'i dderbyn.· Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i ddileu neu newid y gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd yn achos unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl o unrhyw newid i’r gystadleuaeth.· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am wobrau a ddarperir i ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth.· Ni chaiff gwobrau ariannol eu cynnig yn lle’r gwobrau a nodir. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Cynigir y gwobrau yn unol â’u hargaeledd a cheidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid unrhyw wobr am wobr gyfwerth heb rybudd.· Caiff yr enillwyr eu dewis gan gynrychiolydd yr Hyrwyddwr.· Caiff yr enillwyr eu hysbysu drwy ebost, Facebook neu Twitter erbyn 15 Chwefror. Os na ellir cysylltu â’r enillwyr, neu os na fyddant yn hawlio eu gwobr o fewn 72 awr o gael eu hysbysu, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl a’i dyfarnu i enillydd arall.· Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu’r wobr – neu lle i’w bostio· Bydd penderfyniadau’r Hyrwyddwr, ym mhob achos yn ymwneud â’r gystadleuaeth, yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.· Caiff y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn eu rheoli dan gyfraith y DU a bydd unrhyw anghydfod yn atebol i awdurdod llysoedd y DU yn unig.· Wrth ymgeisio, mae pob ymgeisydd yn rhyddhau Facebook, Twitter a Instagram o unrhyw a phob atebolrwydd sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth hon.· Bydd pob ymgeisydd yn cytuno y gall Amgueddfa Genedlaethol Cymru arddangos a rhannu’r cais a gyflwynwyd, ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod eu henw os yw’r wybodaeth ar gael. Erys hawlfraint ddeallusol y gweithiau ym meddiant yr ymgeisydd· Mae’r enillwyr yn cytuno i yrru neges o gydnabyddiaeth ar Facebook, Instagram neu Twitter, gan enwi @amgueddfacymru yn eu neges.· Mae’r enillydd yn cytuno y gellir defnyddio ei enw, llun, a’r gwaith a gyflwynwyd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd.· Caiff unrhyw ddata personol yn ymwneud â’r enillydd neu unrhyw ymgeiswyr eraill ei ddefnyddio’n unol â chyfraith ddiogelu data gyfredol y DU yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr ymgeisydd.· Bydd ymgeisio yn y gystadleuaeth yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau hyn.· Nid yw’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi, ei chymeradwyo na’i gweinyddu, nac ychwaith yn gysylltiedig â Facebook neu unrhyw Rwydwaith Gymdeithasol arall. Rydych yn darparu eich gwybodaeth bersonol i Amgueddfa Cymru yn hytrach nag unrhyw barti arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.