Beth yw eich atgofion o’r BBC?
3 Mawrth 2021
,Dechreuodd y BBC ddarlledu yng Nghymru ar 13 Chwefror 1923, gyda’r darllediad radio cyhoeddus cyntaf yn dod o Gaerdydd. Mae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â BBC Cymru yn cynllunio arddangosfa i ddangos sut y bu’r BBC yn ‘rhannu, addysgu a darparu adloniant’ i bobl Cymru dros y 100 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn plymio i archif helaeth y BBC ac yn pori drwy ein storfeydd yn Amgueddfa Cymru i gael gafael ar ddelweddau, clipiau ffilm a gwrthrychau, ond mae angen mwy arnom.
Rydym yn awyddus i glywed eich straeon a’ch atgofion CHI. Pa eiliadau yn hanes y BBC sydd wedi aros gyda chi a pham? Pa sianeli neu orsafoedd radio ydych chi wedi eu mwynhau fwyaf? Beth yw eich atgofion o deledu a radio’r BBC dros y Nadolig?
Ynghyd â’ch straeon, hoffem glywed os oes gennych unrhyw gofroddau o’r BBC; teganau o’ch hoff raglenni teledu, sticeri, bathodynnau, posteri, crysau-T.
Cysylltwch a ni dros ebost - casglu@amgueddfacymru.ac.uk
sylw - (2)
Dear Hugh Jones,
Thank you for your comment. I'm very pleased to say that as of today all seven of our Museums are once again open to the public. For details on planning a visit, please see the individual Plan Your Visit pages at https://museumwales.ac.uk/. We look forward to welcoming you through our doors in the near future.
Best wishes,
Marc
Digital Team