Pencampwyr Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion
19 Ebrill 2021
,Dechreuodd ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion yn 2005 ac mae wedi bod yn cyflwyno disgyblion CA2 i wyddoniaeth, newid hinsawdd a’r amgylchfyd naturiol ers 16 mlynedd. Gwelwyd sawl her yn ystod project 2020-21 a fu’n ysbrydoliaeth i ni gyd weithio mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar.
Mae ysgolion ar draws y DU wedi dangos penderfyniad a gallu amryddawn wrth fynd i’r afael â heriau a achoswyd gan y pandemig a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil. Rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion a barhaodd i gasglu a rhannu data tywydd. Fe wnaethant hyn yn aml drwy ofyn i ddisgyblion sy’n byw gerllaw’r ysgol i fynd â’r offer tywydd gartref. Roedd y disgyblion hyn yn gyfrifol am gofnodi ac uwchlwytho’r data ar ran eu hysgolion yn ystod y cyfnod clo.
Byddwn ni’n cwrdd â rhai o Wyddonwyr Gwych Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion drwy gofnodion Blog. Ein Pencampwr cyntaf yw Riley, sydd wedi bod yn cofnodi darlleniadau tywydd ar gyfer Ysgol Gynradd Stanford in the Vale.
C. Sut flwyddyn wyt ti wedi ei chael yn y cyfnod clo?
A. Dwi wedi cael blwyddyn gymysg, dwi wedi bod yn falch i fynd nôl i’r ysgol achos doeddwn i ddim wir yn hoffi dysgu o gartref. Roeddwn i’n hapus i weld fy ffrindiau i gyd!!
C. Pam wyt ti’n meddwl fod y project yn bwysig?
A. Dwi’n credu fod y project yn bwysig iawn. Yn ogystal â helpu gyda sgiliau mathemateg, mae hefyd yn mynd â chi mas i’r ardd i gael hwyl.
C. Sut wnest ti helpu i gynnal y project?
A. Eleni dwi wedi bod yn helpu gyda’r project drwy wneud y mesuriadau tywydd o gartref. Dwi’n credu bod hi’n bwysig i gadw’r project i fynd hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo!
C. Beth wyt ti’n ei fwynhau am wneud mesuriadau?
A. Dwi’n mwynhau gweld y gwahaniaethau yn y tywydd bob dydd, dwi’n hoffi sut ti’n gallu cael diwrnodau amrywiol iawn o ran tymheredd a glawiad. Mae pob diwrnod yn wahanol!
C. Beth wyt ti wedi sylwi am dy fesuriadau tywydd a blodau eleni?
A. Dwi wedi sylwi eleni fod gyda ni rai dyddiau poeth iawn gyda rhai tymhereddau yn cyrraedd hyd at 25 gradd ym mis Mawrth!!
C. Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf wedi’r cyfnod clo?
A. Y peth dwi’n edrych mlaen ato fwyaf yw gweld teulu a ffrindiau eto!! Mae’n teimlo fel gymaint o amser ers i fi ei gweld nhw!!
Diolch Riley.
Diolch i chi am eich holl waith caled Gyfeillion y Gwanwyn,
Athro’r Ardd