Mae’n Wythnos Gofalwyr: pam mae’n bodoli a sut allwch chi helpu?
8 Mehefin 2021
,Eleni mae 8–13 Mehefin yn Wythnos Gofalwyr, a’r nod yw cydnabod cyfraniad gofalwyr di-dâl i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Petai’r gofal hwn yn cael ei ddarparu gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y byddai’n costio £530 miliwn y diwrnod ar draws y DU.
Mae nifer o ofalwyr yn wynebu trafferthion ariannol, unigedd cymdeithasol, neu iechyd gwael o ganlyniad i’w rôl. Yn ystod y pandemig mae’r pwysau ar ofalwyr wedi cynyddu wrth i nifer o’r gwasanaethau y byddan nhw’n ddibynnol arnynt, fel canolfannau cymunedol neu wasanaethau encil, wedi cau. Ceir amcangyfrif hefyd bod y cyfanswm nifer wedi cynyddu 50% (Carers UK), sy’n golygu bod o bosib hyd at 600,000 o oedolion a phobl ifanc yng Nghymru yn ofalwyr.
Tua diwedd 2020 dyma Amgueddfa Cymru yn cynnal arolwg i holi gofalwyr beth allai’r Amgueddfa ei gynnig. Os ydych chi am ddeall pam ein bod ni am ddarparu gweithgareddau neu ddigwyddiadau yn benodol o ofalwyr, sut all amgueddfeydd gyfrannu yn ein barn ni, a’r hyn arweiniodd at yr arolwg, darllennwch y blog hwn o'r llynedd.
Derbyniwyd ymatebion gan oedolion a phobl ifanc, ac roedd y gweithgareddau mwyaf atyniadol yn eithaf cyson:
- gweithgareddau celf/crefft y gallai pobl eu mwynhau
- amser i gymdeithasu gyda gofalwyr eraill
- gwybodaeth neu sgyrsiau fyddai o fudd i ofalwyr.
Roedd tua dau draean o’r gofalwyr â diddordeb mewn gweithgareddau i’w mynychu eu hunain a dau draean â diddordeb mewn mynychu gyda’r person maent yn gofalu amdano. (Roedd gan draean o'r ymatebion ddiddordeb yn y ddau.) Roedd diddordeb mewn digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Dyma ni felly’n cynllunio i dreialu sesiynau diwrnod i ofalwyr am dri mis, gan ddechrau ym mis Mai eleni. Cynhelir dwy sesiwn ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis: 2.30–3.30pm i ofalwyr o bob oed, a 5–5.30pm i ofalwyr dan 26. Os ydych chi’n ofalwr, ac am fynychu un o’r sesiynau ar ddydd Mawrth 6 Gorffennaf, gallwch chi archebu tocyn am ddim.
Hyd yn hyn mae’r sesiynau wedi cynnwys:
- gweithgareddau darlunio (does dim angen talent artistig)
- pam a sut i greu rhestr chwarae ar gyfer rhywun annwyl
- profiadau Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn rhedeg SgrinWyna, a thrafod ein menter Cysur Mewn Casglu.
Mae Cysur Mewn Casglu yn rhannu straeon am wrthrychau sy’n rhoi cysur i bobl, ac mae’r rhaglen yn cynnwys taflenni sbardun y gall gofalwyr eu defnyddio gyda’u hanwyliaid. Gall sgyrsiau weithiau ddiflasu neu ddod yn ailadroddus os ydych chi gyda rhywun drwy’r amser, ac mae gofalwyr wedi dweud bod y taflenni wedi sbarduno sgyrsiau diddorol newydd. Dysgwch ragor am Cysur Mewn Casglu a’r taflenni sbardun.
Rydym hefyd wedi creu rôl Gwirfoddolwr Cefnogi newydd i’n helpu i gynorthwyo gofalwyr ac eraill i ymwneud â digwyddiadau, casgliadau a gweithgareddau’r Amgueddfa. Mae gan y gwirfoddolwyr sydd wedi ymgeisio brofiad a sgiliau gwych, a pan fyddant wedi cwblhau eu hyfforddiant byddant yn ein galluogi i gynnig croeso gwell ac amrywiaeth o weithgareddau i bobl fyddai’n elwa o gefnogaeth ychwanegol.
Un elfen o’r sesiynau Diwrnod Gofalwyr sydd wedi bod yn anoddach na’r disgwyl yw lledu’r neges. Mae cymaint o’r llefydd y byddai gofalwyr yn arfer treulio eu hamser ar gau, a’r sefydliadau sydd fel arfer yn cefnogi gofalwyr wedi bod dan gymaint o bwysau yn ystod y pandemig. Hyd yn oed os nad ydych chi’n ofalwr eich hun, rydych chi mwy na thebyg yn adnabod un o’r 600,000 o ofalwyr yng Nghymru. Beth am roi gwybod iddyn nhw am y Diwrnodau Gofalwyr, a gofyn os oes rhywbeth allwch chi ei wneud i helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn? Diolch yn fawr.
Dysgwch ragor am ein Diwrnodau Gofalwyr.
Os ydych chi am roi adborth i ni am ein Diwrnodau Gofalwyr, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gallu mynychu, gallwch gwblhau arolwg byr di-enw.