Dan y môr a’i Donnau...
8 Gorffennaf 2021
,Ar y wal yng Nghanolfan Ddarganfod Clore mi welwch sbesimen gall wedi nofio allan o chwedl anturus danforol. Tybed os welsoch chi rywbeth tebyg erioed? Ai ceffyl ungorn bu’r peth yma’n perthyn i eisoes? Mae nifer o’n hymwelwyr o’r farn hon! Bu’r corn yma eisoes yn perthyn i greadur gwelw o ddyfroedd yr Arctig, wedi eu henwi'n aml “Ungyrn y Moroedd”.
Mae’r morfil ungorn (Monodon monoceros) yn perthyn i’r un teulu â’r dolffin, y beluga a’r orca. Bydd yn treulio’i fywyd yn nofio ym moroedd rhewllyd Arctig Canada, yr Ynys Las, Norwy a Rwsia. Bydd yn gaeafu am 5 mis iasoer islaw’r ia, ac yn ymddangos fel arfer mewn grwpiau o 15 i 20.
Bwyd y morfil ungorn yw pysgod, corgimychiaid, sgwid a bywyd morol arall (ond does fawr o ddewis ganddo!). Yn debyg i’r morfil ffyrnig a morfilod danheddog arall, mae’r morfil ungorn yn bwydo drwy sugno. Bydd yn dal a tharo pysgod cyn eu sugno a’i llyncu’n gyfan. Gall y morfil ungorn blymio i ddyfnder o ryw filltir a hanner, ond mae’n dibynnu ar graciau yn yr ia er mwyn codi i anadlu.
Ddim at ddant pawb
Dant mawr yw corn y morfil ungorn mewn gwirionedd, a dim ond y gwrywod fydd fel arfer yn tyfu corn. Mae’r corn troellog fel cleddyf sy’n tyfu’n syth drwy’r wefus uchaf, hyd at 10 troedfedd o hyd. Gall ambell forfil dyfu dau gorn hyd yn oed! Am boenus!
Mae cryn ddadlau am bwrpas y corn ymysg gwyddonwyr. Mae rhai yn credu bod arddangos y corn yn ffordd o ddenu partner, neu o frwydro. Yn ddiweddar mae drone wedi ffilmio morfil ungorn yn defnyddio’i gorn i daro pysgod, ac mae ymchwil arall yn awgrymu bod gan y corn nodweddion synhwyro, gan ei fod yn cynnwys hyd at 10 miliwn o nerfau. Beth yw’ch barn chi?
Peryg bywyd?
Mae morfilod ungorn a rhywogaethau eraill yr Artig, fel yr arth wen a’r walrws wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd i oroesi yn y moroedd ia. Oherwydd effeithiau newid hinsawdd, mae’r gorchudd ia yn newid yn gyflym iawn. Nid lle i fwydo yn unig yw’r moroedd ia i forfilod ungorn, ond hafan ddiogel rhag ysglyfaethwyr. Mae’r llen ia yn cilio’n rhy gyflym i’r morfilod addasu, ac yn fygythiad difrifol i’r rhywogaeth.
Mae’r cynydd mewn masnach llongau yn yr Arctig hefyd yn fygythiad. Mae rhagor o longau yn cynyddu’r siawns o wrthdrawiadau, ac yn creu llawer o lygredd sŵn tanfor. Gan fod morfilod yn dibynnu ar sain i gyfathrebu, mae llygredd sŵn yn amharu ar eu gallu i hela, paru ac osgoi ysglyfaethwyr.
Mae ein sbesimen o gorn morfil ungorn yn wrthrych rhyfeddol, ond mae hefyd yn atgof o’n cyfrifoldeb, fel unigolion a dynioliaeth, i sicrhau eu goroesiad.