Hela Ffosilau yn Llanilltud Fawr
4 Awst 2021
,Yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg mae traeth caregog poblogaidd – lleoliad prydferth ryfeddol wrth droed y clogwyni gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren at Minehead ar ddiwrnod clir. Ond yn bwysicach i chi a fi, mae’r traeth yn un o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ganfod trysorau newydd i helwyr ffosilau ac archwilwyr byd natur. Felly ar brynhawn Llun llwyd, i ffwrdd â fi i’n hoff draeth gyda fy offer a’n llyfr braslunio i weld beth allwn i’i ganfod…
Mae cwymp creigiau yn ddigwyddiad rheolaidd ar draeth Llanilltud Fawr, a nifer o bobl wedi cael eu brifo neu eu lladd, yn anffodus. Er bod temtasiwn mawr i chwilio am ffosilau ymhlith creigiau sydd newydd ddisgyn, mae’n hanfodol bod helwyr yn cadw draw o’r clogwyni! Doedd dim cwymp yn amlwg wrth i fi gerdded at y traeth, ond fe ymddangosodd hwn o fewn ychydig lathenni. Atgof amserol i gadw’n glir!
Pa offer es i gyda fi medde chi? Does dim angen labordy gwyddonol a byddin o balaeontolegwyr arnoch chi wrth hela ffosilau! Gall unrhyw un â llygad dda roi cynnig arni.
Ond cyn bwrw ati, cofiwch:
- Wirio amseroedd y llanw. Mae’n fwy diogel dechrau hela ffosilau pan fydd y llanw ar drai, er mwyn osgoi cael eich dal gan y llanw’n codi.
- Gwisgo dillad ac esgidiau addas. Mae’n hanfodol cael esgidiau cadarn ar dir creigiog fel hwn, a bod yn barod am newid sydyn yn y tywydd.
- Gall hela ffosilau fod yn waith sychedig, felly dewch â digon o fwyd a diod i’ch cadw i fynd. Efallai bod y caffi agosaf yn bell!
Fy offer
- Esgidiau cryf
- Dŵr yfed
- Rholyn cegin i lanhau canfyddiadau diddorol
- Rhywbeth i ddogfennu’r profiad – llyfr braslunio, llyfr nodiadau, ffôn (gyda chamera), pren mesur pensel a beiro.
Fe benderfynais i gerdded i’r chwith, ar bellter diogel o’r clogwyn. Mae’r tirlun yn greigiog ac amrywiol – perffaith ar gyfer pyllau cerrig a hela ffosilau.
Fe ges i olwg gyflym ar y siâl cyn dechrau ar y clogfeini. Y ffosilau mwyaf cyffredin i’w cafod ar y traeth yw molysgiaid, fel amonitau a deufalfiau, ond efallai y gwelwch chi weddillion esgyrn pysgod neu ichthyosaur os ydych chi’n lwcus! Gallwch chi hefyd weld esiamplau prydferth o gregyn modern. Wrth i fi nesu at y clogfeini mawr, fe welais i olion oedd yn edrych fel amonit, ac aros i archwilio ymhellach.
Dyma fi’n tynnu braslun syml o’r canfyddiad a’i fesur. Dyma fi hefyd yn defnyddio fy ffôn i gymryd llun o’r lleoliad, gyda bys yn pwyntio at y ffosil. Mae hon yn ffordd syml iawn o gofnodi lleoliad sbesimen diddorol er mwyn ei ailddarganfod os oes angen.
Roeddwn i’n eiddgar i ganfod mwy, felly dyma fi’n symud i lawr y traeth. Roedd y clogfeini fan hyn wedi chwalu fwyfwy a cefais fy nenu at un yn benodol. Roeddwn i wedi canfod ôl amonit arall! Fe benderfynais i beidio morthwylio ar y garreg o gwmpas yr olion, gan fod hyn yn aml yn niweidio’r ffosil yn hytrach na’i ddatod yn daclus. Dychmygwch ddinistrio ar ddamwain gydag un ergyd esgeulus rywbeth sydd wedi goroesi am filiynau o flynyddoedd – mae’n anfon ias oer drwydda i! Penderfynais i adael y ffosil yn y fan. Yn anffodus mae gormod o gasglu ar draeth Llanilltud Fawr, a dwi’n credu dylai’r esiampl hwn gael ei adael i eraill ei fwynhau. Efallai y byddwch chi’n ei ganfod wrth ymweld!
Os ydych chi’n canfod unrhyw ffosilau neu wrthrychau diddorol, cysylltwch â’r Amgueddfa drwy’r wefan. Rydyn ni’n dwlu gweld eich canfyddiadau, ac mae ein tîm o arbenigwyr wastad yn barod i adnabod canfyddiadau a rhoi gwybodaeth bellach.
Cofiwch, gall pawb fod yn balaeontolegydd!
Hela hapus!
I ffeindio rhagor o adnoddau i'ch helpu chi gydag archwilio, ymwelwch â:
Ar Eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoloeg yng Nghymru
sylw - (3)
Hi Terry
Just seen your question. Pumice in the strict sense is pale in colour not black; this is a product of the composition of the magma it forms from. As your specimen was black, then there are several possibilities (1) it may have been basalt scoria, different chemical composition to pumice but basically the same idea, frothed up lava as it is erupted; this would be rare in South Wales. If a correct identification, it would most likely be derived as ship ballast, but would have been deposited here sometime ago as rock has not been used as ballast for over 100 years. (2) if it was full of cavities like pumice, but wasn't low density (i.e. it wouldn't have floated in water) then it may be slag derived from the rich industrial past of South Wales with processing metal ores. (2) if it was quite low density, dark but not black when dry, and full of holes, it might be building material. Hope this helps; happy to look at a photo if you have one.
Jana
Head of Mineralogy & Petrology
Regards Terry