Diwrnod Plannu 2022 Penny Dacey, 20 Hydref 2022 Helo Cyfeillion y Gwanwyn, Bydd ysgolion o ardraws y DU yn plannu eu bylbiau mor agos at 20 Hydref ag posib. Cliciwch yma am adnoddau i'ch paratoi ar gyfer diwrnod plannu ac am wybodaeth ar sut i ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf! Bydd yr adnoddau hyn yn help ar gyfer diwrnod plannu:• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich bylbiau)• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg) A dyma weithgareddau hwyl i gwblhau:• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau• Creu Labelai Bylbiau Plîs darllenwch y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r cennin Pedr a chrocws wedi eu plannu?Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu a rhannu'r rhain i gystadlu yn y Gystadleuaeth Diwrnod Plannu. Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld digwyddiadau diwrnod plannu yn ysgolion eraill. Pob lwc, gadewch i ni wybod sut mae'n mynd. Athro'r Ardd a Bwlb Bychan