Ar ganmlwyddiant y BBC yng Nghymru
13 Chwefror 2023
,‘What a vista of possibilities is opened up in this wonderful discovery … Surely it marks the dawn of a new era – with what results, who can tell?’
Gyda’r geiriau hyn, agorodd Arglwydd Faer Caerdydd, yr Henadur Dr J. J. E. Biggs, Orsaf Caerdydd y Cwmni Darlledu Prydeinig am 5.00pm ar 13 Chwefror 1923. Ychydig fisoedd ar ôl i’r BBC ddechrau darlledu o’i orsaf yn Llundain gyda’r arwydd 2LO, roedd gan Gymru ei gorsaf ei hun – 5WA – a oedd yn dod ag arlwy o gerddoriaeth, sgyrsiau, a gwasanaethau crefyddol i wrandawyr yng Nghaerdydd, cymoedd de Cymru, a thros Fôr Hafren mewn rhannau o orllewin Lloegr.
Dechreuadau di-nod
O’r dechreuadau di-nod mewn stiwdio fechan uwchben sinema yn Stryd y Castell, tyfodd y BBC yng Nghymru i chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl. Er gwaethaf cael ei gosod yn yr hyn a elwir yn ‘Rhanbarth y Gorllewin’ yng Nghynllun Rhanbarthol y BBC yn y 1930au, arweiniodd pwysau gan sefydliadau, grwpiau ac unigolion o bob rhan o Gymru at sefydlu’r Rhanbarth Cymreig yn 1937, gan roi ymdeimlad clir o hunaniaeth i’r genedl. Yn wir, dadleuodd yr hanesydd, John Davies, unwaith fod Cymru yn endid gafodd ei chreu gan ddarlledu.
Roedd dyfodiad teledu ac agor trosglwyddydd yng Ngwenfô ym mis Awst 1952 yn dechrau ar gyfnod newydd yn hanes y BBC yng Nghymru. Fodd bynnag, gan nad oedd trosglwyddyddion yn parchu ffiniau cenedlaethol, roedd Cymru unwaith eto wedi’i ‘chlymu’ â gorllewin Lloegr, a arweiniodd at gwynion ar ddwy ochr y sianel. Roedd y penderfyniad i greu gwasanaeth BBC Cymru Wales ym mis Chwefror 1964 yn gam i geisio datrys y sefyllfa. Roedd yn ofynnol i'r BBC gynhyrchu 7 awr o raglenni Cymraeg a 5 awr o raglenni Saesneg i Gymru. Arweiniodd pwysau cyhoeddus pellach a dealltwriaeth gynyddol o anghenion Cymru ar ran rheolwyr y BBC yn Llundain at sefydlu gorsafoedd radio cenedlaethol Radio Cymru a Radio Wales ar ddiwedd y 1970au. Newidiodd sefydlu S4C yn 1982 dirwedd darlledu Cymru ac mae’r BBC yn parhau i chwarae rhan fawr yn llwyddiant y sianel.
Dyfodol y BBC
A beth am ddyfodol y BBC yng Nghymru? Wel, mae radio yn dal ei dir yn dda yn yr oes aml-lwyfan. Roedd gan Gymru’r gyfran fwyaf o wrandawyr radio nag unrhyw wlad arall yn y DU ac mae teyrngarwch i orsafoedd y BBC yn amlwg. Mae teledu, ddaeth i Gymru ychydig dros 70 mlynedd yn ôl, yn wynebu heriau gan wasanaethau ffrydio ond mae’n parhau i hysbysu, addysgu a diddanu. Mae bygythiadau gan lywodraeth y DU sy’n cwestiynu holl raison d’etre darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac mae’r ffî drwydded wedi’i gwestiynu (er ei bod yn ymddangos bod y ddadl benodol honno wedi tawelu … am y tro).
Beth bynnag yw eich barn am y BBC, does dim dwywaith bod y Gorfforaeth wedi chwarae rhan ganolog ym mywyd Cymru ers canrif.
Penblwydd Hapus BBC Cymru Wales – a hir oes!
Athro’r Cyfryngau a Chyfathrebu
Mae arddangosfa BBC 100 yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nes 16 Ebrill 2023.