Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion – ein blwyddyn gyntaf!
22 Mawrth 2023
,Ym mis Ebrill 2022, cafodd Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, project partneriaeth tair blynedd rhwng Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a'i nod yw archwilio sut y gallwn ni ddefnyddio ein saith amgueddfa a’n casgliadau i wella iechyd a lles pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia.
Pam mae'r project hwn yn bwysig
Yn aml, gall pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanyn nhw brofi llai o gyswllt cymdeithasol, ynysigrwydd cymdeithasol, diffyg hyder, gorbryder a phryderon iechyd meddwl eraill. Mewn ymateb, mae ymchwil wedi dangos bod ymyriadau sy'n seiliedig ar amgueddfeydd yn ffordd bwysig o hyrwyddo ymgysylltiad a lles pobl sy'n byw gyda dementia.[1]
"Mae yna deimladau ac emosiynau rwy’n eu cael wrth weld pethau mewn amgueddfeydd, fel y tai teras yma yn Sain Ffagan. Mae’r teimlad yn fy llethu mewn ffordd sydd ond yn bosib pan allwch chi gyffwrdd â rhywbeth neu weld pethau bywyd go iawn – fel atgofion am fy mam-gu a thad-cu sy’n llifo’n ôl. Mae amgueddfeydd mor bwysig i bobl â dementia. Maen nhw'n llefydd bendigedig ond yn eich llethu ar yr un pryd."
Person sy'n byw gyda dementia
Beth sydd wedi cael ei wneud eisoes?
Dechreuodd Amgueddfa Cymru ar ei thaith i fod yn sefydliad sy’n deall dementia yn ôl yn 2015. Rhwng hynny a 2018, gwahoddwyd pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia i fod yn rhan o archwiliadau hygyrchedd mewn tair o'n hamgueddfeydd. Yn dilyn hyn, datblygwyd ein teithiau tanddaearol dementia -gyfeillgar yn Big Pit, gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia ac ar eu cyfer nhw hefyd. Ymhlith y darnau eraill o waith, mae Grŵp Cerdded Dementia Cynnar yn Sain Ffagan a Grŵp Pontio'r Cenedlaethau yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
Ein hymgynghoriadau
Rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023, mae’r tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi bod yn gwahodd pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr (di-dâl ac o'r sector), cydweithwyr yn y sector treftadaeth a chydweithwyr o sefydliadau cynrychiadol i ymgynnull â ni yn ein hamgueddfeydd ac mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Mae'r tîm hefyd wedi bod allan yn siarad gyda grwpiau cymunedol a phreswylwyr cartrefi gofal. Hyd yma, mae 183 o bobl wedi ymuno â ni.
Mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn gyfle gwirioneddol i ddefnyddio profiadau bywyd pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia a'r rhai o fewn y sector treftadaeth, darganfod mwy am y rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia wrth ymwneud ag amgueddfeydd, ac edrych ar sut y gallwn ddatblygu ein safleoedd a’n staff i ddod yn fwy cefnogol o ddementia.
Dyma ychydig o ddyfyniadau gan y rhai a ymunodd â ni, pan ofynnwyd iddyn nhw beth wnaethon nhw ei fwynhau am yr ymgynghoriad:
"Clywed barn pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'r rhai sy'n gweithio gyda'r rhai sydd â dementia. Roedd yn addysgiadol ac yn gwneud i rywun feddwl" Aelod o sefydliad cynrychioladol
"Cwrdd â phobl eraill a chymharu eu hanghenion a'u problemau gyda’n rhai ni" Person sy'n cael ei effeithio gan ddementia
"Rwyf wedi mwynhau cwrdd â phawb a'r staff brwdfrydig sy'n arwain y project. Rwy'n teimlo'n hynod o falch fy mod wedi gallu cyfrannu. Rwy'n edrych ymlaen at glywed sut mae'r project yn datblygu" Gofalwr
"Mae ystod y project yn drawiadol gyda holl gyfleusterau'r Amgueddfeydd ar gael. Er, dim ond un gwrthrych syml oedd ei angen i sbarduno atgofion ac annog sgyrsiau yn y digwyddiad y bues i ynddo ym Mlaenafon. Hen gerdyn post oedd e gydag ambell lun o Borthcawl ar y blaen. Arweiniodd hyn yn syth at gymaint o atgofion am wyliau haf, tripiau ysgol Sul, teithiau undydd. Roedd un o'r grŵp yn cofio blas y toesenni wedi ffrio! Un cerdyn post syml ac roedden ni'n ôl yno... pob un yn siarad am y peth – yn ofalwyr ac yn bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia fel ei gilydd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y project hwn yn ffynnu gan y bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rwy'n falch o'i gefnogi a'i hyrwyddo wrth weithio ledled y De."
Chris Hodson, Gweithiwr Gwybodaeth yng Nghymdeithas Alzheimer’s Cymru
Y camau nesaf
Dros y misoedd nesaf byddwn yn gwahodd pobl i ymuno â'n Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth. Bydd hyn yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr yn y sector treftadaeth, a gyda'i gilydd byddan nhw’n helpu i lywio gwaith y project dros y ddwy flynedd nesaf wrth i ni ddatblygu a chyflwyno rhaglen ystyrlon o weithgareddau, yn ein hamgueddfeydd ac mewn cymunedau.
Gyda phwy ddylech chi gysylltu
Dyma'r Tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion yn Amgueddfa Cymru:
Sharon Ford – Rheolwr Rhaglen
Gareth Rees – Arweinydd Llais Dementia
Fi Fenton – Swyddog Gweinyddol
Os hoffech chi ddysgu mwy am waith y project hwn, neu gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan, e-bostiwch Gareth (gareth.rees@amgueddfacymru.ac.uk) neu ffoniwch 029 2057 3418, neu e-bostiwch ein tîm - MIMS@amgueddfacymru.ac.uk
[1] Zeilig, H, Dickens, L & Camic, P.M. “The psychological and social impacts of museum-based programmes for people with a mild-to-moderate dementia: a systematic review.” Int. J. of Ageing and Later Life, 2022 16 (2); 33-72