Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion - cyrraedd 175 o ysgolion!
17 Mai 2023
,Mae Penny Dacey, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn, wedi bod yn brysur yn helpu gwyddonwyr ifanc i fynd allan ac ymchwilio i effaith y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd ddifyr a chreadigol!
Efallai bod llawer ohonoch chi wedi clywed am broject Bylbiau’r Gwanwyn, sydd ar waith ers 2005. Os nad ydych chi’n yn gyfarwydd â’r hanes, dyma sy’n digwydd, yn fras. Bydd disgyblion ysgol yn helpu Athro’r Ardd, gwyddonydd cartŵn cyfeillgar, i archwilio effaith newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy gymryd rhan mewn astudiaeth flynyddol gan gofnodi a chyflwyno data am y tywydd a blodau.
Sut y dechreuodd a sut mae’n mynd...
Dechreuodd y project yng Nghymru gan Danielle Cowell, Rheolwr Rhaglen Dysgu Digidol , ond drwy gyllid gan Ymddiriedolaeth Edina mae wedi ehangu ledled gwledydd Prydain. Mae Amgueddfa Cymru
bellach mewn cysylltiad â 175 o ysgolion bob blwyddyn drwy Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion! Dipyn go lew o fylbiau felly!
Yr ochr wyddonol
Bydd ysgolion sy’n cyfrannu at yr ymchwiliad yn cymryd rhan am flwyddyn academaidd lawn. Cânt eu pecynnau adnoddau tua diwedd Medi er mwyn plannu eu bylbiau ar 20 Hydref a gwneud cofnodion tywydd o 1 Tachwedd hyd at 31 Mawrth. Gofynnir i ysgolion wneud cofnodion tywydd (darlleniadau tymheredd a glaw) am bob diwrnod ysgol, ac uwchlwytho’r data hyn i wefan Amgueddfa Cymru ar ddiwedd pob wythnos. Gofynnir hefyd iddyn nhw fonitro’u planhigion a chofnodi dyddiad blodeuo ac uchder eu planhigion ar y dyddiad hwnnw i’r wefan. Y canlyniad yw y gallwn ni bellach gymharu dyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon â rhai blynyddoedd blaenorol a gweld sut y gallai patrymau tywydd newidiol fod wedi effeithio ar y dyddiadau hyn. Gwych, ynde?
Gwneud gwahaniaeth! Dysgu sgiliau gwyddonol a hybu lles
Mae’r ymchwiliad yn cefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau gwyddonol, gan gynnwys deall twf planhigion, effaith newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd, a chasglu a dadansoddi data. Gall disgyblion gymhwyso dulliau a chysyniadau gwyddonol i sefyllfa go iawn, sy’n eu helpu i ddeall pwysigrwydd a pherthnasedd gwyddoniaeth yn eu bywydau. Mae’r broses o ofalu am eu planhigion, bod allan yn yr awyr agored (ym mhob tywydd) a gweithio gyda’i gilydd i gasglu’r data yn rhoi nifer o fanteision, o ran eu lles ac o ran datblygu cysylltiadau gydol oes â byd natur.
Ydych chi’n gwybod am unrhyw ysgolion fyddai’n hoffi cymryd rhan?
Bydd ceisiadau’n agor i ysgolion yng Nghymru ddiwedd mis Ebrill, ar sail y cyntaf i’r
felin. Os gwyddoch chi am unrhyw ysgolion fyddai’n hoffi cymryd rhan, gofynnwch
iddyn nhw edrych ar y tudalennau isod am fwy o wybodaeth:
Gwefan Bylbiau’r Gwanwyn
Blog Bylbiau’r Gwanwyn
Bylbiau’r Gwanwyn ar Twitter