O'r diwedd, mae'r cennin Pedr ar y ffordd!
26 Mawrth 2010
,Y gaeaf hwn oedd yr oeraf ers 30 mlynedd – felly mae ein blodau wedi agor llawer hwyrach nag arfer. Cofnodwyd ein crocws cyntaf yn Ysgol Gynradd Murch ar 14 Chwefror a’r cennin Pedr cyntaf yno hefyd ar 17 Chwefror.
Ers hynny mae llawer mwy wedi agor ledled y wlad. Astudiwch y mapiau a’r graffiau i ddysgu mwy: http://www.museumwales.ac.uk/en/1719/
Yn olaf, yr wythnos hon mae’r cennin Pedr yn fy ngardd wedi blaguro, ac fe ddylen nhw fod yn barod i agor cyn bo hir gobeithio! Maen nhw’n edrych ychydig yn fyrrach na blodau’r blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn astudio’r cofnodion i weld os yw hyn yn duedd eleni.
Diolch yn fawr
Athro’r Ardd
sylw - (5)
My plant is OPENED.