Adroddiad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion Penny Dacey, 24 Mehefin 2024 Annwyl Cyfeillion y Gwanwyn,Rwyf wedi atodi dogfennau ar gyfer yr adroddiad diwedd blwyddyn i'r dde.Edrychwch arnynt i weld sut mae canlyniadau eleni o'i gymharu â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol. Mae'r adroddiad ledled y DU yn mynd yn ôl i 2012 ac mae adroddiad Cymru yn mynd yn ôl i 2005!Dyma rai ffeithiau o adroddiad Cymru, mae llawer mwy!Gwelwyd 2024 planhigion crocws yn blodeuo'n hwyrach a blodau cennin Pedr yn gynharach na'r cyfartaledd. Mae 2024 yn un o ddim ond bedair blynedd a welodd blanhigion crocws yn blodeuo'n hwyrach na chennin Pedr!Gwelwyd 2024 yr oriau isaf o heulwen ein hymchwiliad.Cafodd 2024 y mis Chwefror poethaf ein hymchwiliad.Mae'r Swyddfa Dywydd wedi adrodd a 2024 oedd y Chwefror cynhesaf a gofnodwyd ar gyfer Cymru a Lloegr!Rwyf hefyd wedi atodi dogfen sy'n cynnwys rhestr o'r holl gwisiau Kahoot! Rowch gynnig arni i weld pa mor dda ydych chi at ddehongli'r data. Gallwch ail-sefyll y cwisiau i weld faint rydych wedi'i ddysgu. Diolch i'r holl ysgolion a gyfrannodd at yr ymchwiliad drwy rannu eu data tywydd a blodau i wefan Amgueddfa Cymru.Gwaith gwych!Athro Ardd Penny Dacey Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion Cysylltwch â Penny Dacey Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.