Bylbiau'r Gwanwyn ar gyfer Ysgolion
30 Medi 2024
,Mae'r flwyddyn academaidd newydd wedi dechrau'n dda. Mae'r Athro'r Ardd a'i gynorthwywyr hapus wedi pacio a dosbarthu 175 o becynnau adnoddau i ysgolion ledled y DU.
Mae'r pecynnau hyn yn cynnwys popeth sydd ei angen ar ysgolion i gymryd rhan yn yr ymchwiliad eleni:
- Pot a bylbiau ar gyfer pob plentyn sy'n cymryd rhan
- Mesur glaw a thermomedr i gofnodi data tywydd
- Calendr i gadw cofnodion tywydd a blodau
- Talebau i brynu compost heb-fawn
- Cynllun Tymor hefo dyddiadau allweddol ar gyfer y project
- Pot gwahanol i gymharu defnydd
- Bylbiau dirgel i ddysgu am wahanol blanhigion
Ar 21 Hydref (neu'r dyddiad agosaf posib) mae ysgolion yn cael y dasg o blannu eu cennin Pedr a bylbiau crocws. Dyma'r cam cyntaf y bydd ysgolion yn ei gymryd ar gyfer natur fel rhan o'r project. Dilynwch y blog hwn a'@Professor_Plant ar X/Twitter i weld y lluniau sy'n cael eu rhannu wrth i ni ddathlu'r plannu torfol hwn. Bydd @Professor_Plant hefyd yn rhannu diweddariadau rheolaidd gan ysgolion, a gallwn ddathlu gyda nhw pan fydd eu planhigion yn dechrau blodeuo!
Yr adnoddau cyntaf sydd eu hangen ar ysgolion sy'n cymryd rhan yw:
- Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canllaw i athrawon
- Cam 1: Paratoi i plannu (dechrau mis Hydref)
Gall pob ysgol ddilyn y prosiect a gallant ddefnyddio'r taflenni gwaith ar y wefan.
Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r gwaith y mae ein Gwyddonwyr Gwych yn ei wneud gyda chi.
Athro'r Ardd