Bocsys Teganau Synhwyraidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
16 Hydref 2024
,Dros Wyliau'r Haf dyma ni'n lansio bocsys teganau synhwyraidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae 5 bocs, wedi'u hysbrydoli gan y casgliadau a'r orielau. Datblygwyd y bocsys er mwyn cysylltu ag ymwelwyr iau, a gwellau eu hymweliad drwy chwarae synhwyraidd. Mae'r bocsys ar gael mewn pum oriel, ac yn llawn gwrthrychau sy'n cyfateb â'r orielau – bywyd gwyllt y goedwig, bwyd y môr, deinosoriaid, a chelf hanesyddol a modern.
Yn y bocsys mae amrywiaeth o deganau a llyfrau i blant o bob oed ac anghenion. Pan nad oes cyfle i gyffwrdd gwrthrychau yn y casgliad, mae adnoddau synhwyraidd yn gyfle i blant ddysgu drwy chwarae, a gall hyn danio sgwrs rhwng y cenedlaethau am y casgliadau.
Rydyn ni'n annog ymwelwyr i chwilio am y 5 bocs a rhannu unrhyw adborth a lluniau gyda ni ar @Amgueddfa_Learn ar X.