Tystysgrifau a gwobrau i Wyddonwyr Gwych!
21 Ebrill 2010
,Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni! Bu’r plant yn cwblhau heriau ac yn cadw cofnodion o’r tywydd i ennill tystysgrifau a gwobrau Gwyddonwyr Gwych. Diolch yn fawr i’r Really Welsh Company am gyflenwi cennin pedr a’r wobr 1af – diwrnod yn casglu cennin pedr ar eu fferm ger Pen-y-bont ar Ogwr – a diolch yn fawr iawn hefyd i staff Gwarchodfa Natur Cynffig.
Roedd y safon yn uchel iawn eleni ac fe hoffai Athro’r Ardd ddiolch i’r holl ysgolion sydd wedi sicrhau llwyddiant yr ymchwiliad hwn! Dyma’r ysgolion a’r plant sy’n cael eu haddysgu gartref a ddaeth i’r brig.
1af: Ysgol Iau Pentrepoeth, Treforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Kay Mills. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig.
2il: Ysgol Gynradd Glyncollen hefyd o Dreforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Ann Richards. Gwobr: Ysbienddrych digidol.
Buddugwyr plant sy’n derbyn addysg yn y cartref: Mae’r teulu Jones o Landrindod a’r teulu Butterworth o Sir Gaerfyrddin wedi dangos llawer o ymroddiad gyda’u gwaith cofnodi. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig.
Ysgolion a gafodd ganmoliaeth uchel: Ysgol Nant Y Coed, Ysgol Talhaiarn, Ysgol Howells Llandaf, Ysgol y Ffridd, Ysgol Porth y Felin, Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Ysgol Penycae (Ystradgynlais) Gwobrau: Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.
Ysgolion a gafodd ganmoliaeth am eu hymroddiad a’u cofnodion da: Ysgol Gynradd Deganwy, Ysgol Iau Aberdaugleddau, Ysgol Gatholig Joseff Sant, Coleg Powys, Glan Conwy, Ysgol Iau Hen Golwyn, Ysgol Pen y Garth, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs, Ysgol Iau Murch, Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Windsor Clive, Ysgol Gynradd Brynconin, Ysgol Gynradd Deganwy. Gwobrau: Pob disgybl i dderbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.
Blodau hwyr = adroddiad hwyr: Fel arfer, erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn gallu dyddiadau blodeuo eleni gyda’r rhai a gofnodwyd yn y blynyddoedd blaenorol, ond gan fod y tywydd wedi bod mor oer, rydym yn dal i dderbyn rhai cofnodion. Dros yr wythnosau nesaf, bydd Athro’r Ardd yn gweithio ar yr adroddiad hwn a’i gyhoeddi ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau