Hip Hop: Stori Cymru Kieron Barrett, 9 Gorffennaf 2025 Mae dau gwestiwn wedi bod ar flaen fy meddwl wrth guradu Hip Hop: Stori Cymru ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn gyntaf, 'beth yw Hip Hop?' ac yn ail, 'beth yw amgueddfa?'. Byddech chi'n meddwl bod y ddau'n gymharol hawdd i’w hateb, ond dwi dal ddim wedi taro'r hoelen ar ei phen. Mae chwilio'n barhaus am ryw fath o ateb wedi bod yn sail i'r project.Fe ddylai'r cwestiwn cyntaf ddod yn haws i mi. Rydw i wedi dilyn Hip Hop ers dechrau'r 80au ac mae'n rhan bwysig o fy hunaniaeth. Ar wahanol adegau, dwi wedi bod yn rapiwr, DJ, hyrwyddwr, blogiwr a rheolwr artistiaid, ond yn bennaf oll, dwi wedi bod yn ffan o'r holl agweddau ar ddiwylliant Hip Hop. Hip Hop yw fy nghefndir, nid amgueddfeydd. Ond, mae'r gyfrifoldeb o greu arddangosfa fel hyn wedi bod yn hollbwysig i fi. I wneud cyfiawnder â hynny, roedd yn rhaid i fi gamu i ffwrdd o fy mherthynas fy hun â Hip Hop er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn cynrychioli trawsdoriad o'r wlad. Roedd yn rhaid i fi ymchwilio i'r nifer fawr o ffyrdd y mae Hip Hop wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymru ac mewn llawer o achosion hunaniaeth Gymreig. Roeddwn i eisiau archwilio a dathlu'r effaith mae Hip Hop wedi'i gael ar Gymru ers iddo gyrraedd, ddechrau'r 80au.Er i Hip Hop ddechrau yn y 1970au, tua diwedd 1982 y dechreuodd y diwylliant afael yma. Roedd yn hawdd ffurfio hunaniaeth gyfunol bryd hynny gan mai dim ond 4 sianel deledu a hyn a hyn o ddeunydd print oedd ar gael. Ond, mae Hip Hop wedi newid mewn cymaint o ffyrdd ers dyfodiad y we a globaleiddio, felly dyw e ddim yn hawdd rhoi eich bys ar beth yw Hip Hop bellach.Mae'n sgwrs hir, a dwi'n siŵr na fydda i'n llwyddo i’w datrys yma, ond roedd yn bwysig i fi glywed meddyliau a phrofiadau cymaint o bobl â phosibl. Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa yn un triw, roedd yn rhaid i ni gynnwys lleisiau pobl sy'n hŷn ac yn iau na fi, yn ogystal â fy nghyfoedion. Fe deithiais i hyd a lled Cymru a siarad â llawer o bobl roeddwn i'n eu 'nabod a llawer nad oeddwn i'n eu 'nabod – yng Nghasnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerfyrddin, Caernarfon, Aberystwyth, Bangor, Conwy, Bae Colwyn, Wrecsam a llawer o drefi a phentrefi llai eraill ar hyd y daith. Recordiwyd dros 70 o gyfweliadau, a bydd llawer ohonynt yn cael eu cynnwys yn archif hanes llafar yr Amgueddfa. Fodd bynnag, fe wnes i gwrdd â channoedd mwy ar hyd y ffordd – mae'r project hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd enfawr. Rhaid i fi hefyd ddiolch yn arbennig i Luke Bailey a gasglodd nifer o gyfweliadau pwysig ar ffurf podcast a oedd yn gyfraniad amhrisiadwy at y gwaith ymchwil.Bues i'n tyrchu trwy nifer o archifau hefyd yn chwilio am straeon a gwybodaeth. Papurau newydd, llyfrgelloedd a'r BBC yn arbennig. Roeddwn i'n gwybod am nifer o fideos ac erthyglau ond roedden nhw'n amhosib i'w ffeindio. Treuliais oriau'n pori trwy wefannau ac erthyglau ar y we, a dwi'n ddiolchgar i Dr Kieran Nolan, sylfaenydd irishhiphop.com am ddod o hyd i rai o dudalennau archif fy hen wefan, welshhiphop.com o'r flwyddyn 2000. Ffeindiais i rai lluniau anhygoel, ond roedd blynyddoedd o'u rhannu ar y we wedi effeithio ar eu hansawdd. Bues i'n hela sgwarnog sawl tro, wrth i fi geisio cael fy nwylo ar y fersiynau gwreiddiol, ond roeddwn i'n darganfod mwy o leisiau a mwy o straeon. Ac yn anochel, arweiniodd hyn at ganfod rhagor o luniau a rhagor o wrthrychau i ni eu rhannu â chi. Bues i'n ceisio cysylltu â rhai pobl am flynyddoedd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn i ni siarad wyneb yn wyneb. Roedd yn cymryd amser i ni feithrin perthynas ac ymddiriedaeth fel bo nhw'n hapus i ddatgloi eu hatgofion â rhoi benthyg rhai o'r gwrthrychau roedden nhw'n eu trysori fwyaf i ni. Dwi'n dal i deimlo pwysau'r cyfrifoldeb mawr yma dros bopeth sydd yn yr arddangosfa.Dechreuais i dynnu themâu allan o'r cyfweliadau a'r sgyrsiau. Y mwyaf cyffredin oedd cymuned a chystadleuaeth. Nid oedd y themâu hynny'n rhan o brofiad pawb, ond roedden nhw'n ddigon cyffredin fel eu bod yn dechrau troi'n naratif ar gyfer yr arddangosfa. Mae camsyniad cyffredin wedi bod mai creu cofnod o hanes Hip Hop yng Nghymru ydyn ni. Efallai bod hyn yn digwydd am fod pobl yn gweld amgueddfeydd fel lle i rannu hanes, ac mai’n bosibl mae dyna ran o'u swyddogaeth. Doedd nifer o bobl ddim eisiau cymryd rhan am yr union reswm yna ar y cychwyn, am nad oedden nhw'n barod i gael eu gwthio i'r gorffennol. Yn sicr, nid dyna bwrpas yr arddangosfa hon, ac nid dyna sut dwi'n gweld amgueddfeydd chwaith. I fi, mae amgueddfeydd yn ein helpu i archwilio ein hunaniaeth, yn enwedig ein cenedligrwydd. Yn Oes Fictoria ac Edward, mae'n debyg bod hyn yn fwy penodedig, ond nawr mae'n sgwrs sy'n esblygu bob dydd a dwi mor falch bod Hip Hop yn rhan o'r sgwrs yna o'r diwedd.Ond, wedi dweud hynny, dim ond crafu'r wyneb ydyn ni wedi gallu ei wneud. Byddai angen adeilad cyfan a mwy er mwyn creu hanes cyflawn o Hip Hop yng Nghymru. Fe glywais i bodcast gan Neil deGrasse Tyson oedd yn disgrifio nod amgueddfa fel ‘ysbrydoli pobl i ddysgu mwy’ a dwi'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn i chi. Byddwn ni'n dal i roi mwy o wybodaeth a chyd-destun yn y blog yma dros y misoedd nesaf.Roeddwn i'n meddwl bo fi'n gwybod am Hip Hop yng Nghymru pan ddechreuais i'r project yma ond dwi wedi dysgu cymaint ar hyd y ffordd. Mae ein hanes Hip Hop ni mor gyfoethog, ac mae dylanwad y diwylliant i'w weld ym mhob man os edrychwch chi'n ddigon agos. Dwi'n gwybod fod pobl yn nerfus am y ffordd y bydd Hip Hop yn cael ei gynrychioli. Wir i chi, does neb yn fwy nerfus na fi am gael hynna'n gywir. Dwi mor ddiolchgar am y tîm anhygoel sydd wedi tynnu popeth at ei gilydd – fydden i byth wedi dyfalu bod cymaint o waith yn mynd i mewn i arddangosfa mewn amgueddfa cyn cychwyn ar hon. Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl, ac roedd rhaid iddo fod yn hanesyddol ac yn academaidd gywir hefyd. Roedd hyn yn golygu treulio oriau o fy amser fy hun yn gwneud fy ngwaith cartref ar Hip Hop a dadbacio'r chwedlau niferus sy'n sail iddo. Llyfrau, papurau academaidd, cyfweliadau, rhaglenni dogfen, erthyglau. Mae'n anodd craffu ar rywbeth rydych chi'n ei garu cymaint ond ymchwil gefndirol oedd hwn i raddau helaeth. Yng Nghymru rydyn ni wedi addasu a cherfio ein pennod ein hunain yn hanes Hip Hop. Rydyn ni'n adleisio'r llinynnau ehangach yn y stori – brwydro, derbyn, hunanfynegiant, cystadleuaeth iach a throsglwyddo'r fflam i'r cenedlaethau ddaw ar ein hôl. Mae yna lawer o straeon sy'n werth eu hadrodd, ac rydym wedi tynnu sylw at rai i greu Hip Hop: Stori Cymru. Rydyn ni wir yn gobeithio y byddwch yn galw i weld yr arddangosfa ac yn gadael wedi'ch ysbrydoli, fel yr oedden ninnau wrth weithio arni.