Casglu Data Tywydd o 3 Tachwedd! Megan Naish, 30 Hydref 2025 Hello Cyfeillion y Gwanwyn,Diolch yn fawr iawn i'r holl ysgolion wnaeth gweithion galed i blannir bylbiau am y prosiect. Gydia’n gilydd, mi wnaethon ni plannu dros 18000 o fylbiau dros y DU, ac o weld y ffotograffau, maent yn edrych fel bod pawb wedi cael hwyl yn gwneud hyn!Mae pob ysgol sydd yn cymryd rhan yn y prosiect hwn yn mynd i ddechrau casglu data tywydd o’r 3ydd o Dachwedd hyd at y 27ain o Fawrth. Bydd angen uwchlwythio'r recordiau hyn yn rheolaidd trwy’r wefan Amgueddfa Cymru, gan gynnwys unrhyw sylwadau neu arsylwadau tywydd!Da ni’n mynd i ddysgu llawer gydia’n gilydd dros y flwyddyn ysgol nesaf!Cam 4: Cadw Cyfnodion tywydd (Tachwedd - Mawrth)Mae adnoddau ar gael ar y wefan sy'n archwilio gwahanol agweddau’r prosiect, gan gynnwys syniadau ar gyfer arbrofion ychwanegol ac arweiniad i wneud fideos byr ar gyfer cystadleuaeth Bylbcast!Cam 3: Gweithgareddau ymarferol dewisol i wneud a'r tywydd a garddioCystadleuath BylbcastByddaf yn siŵr o rannu mwy o luniau a sylwadau gan ysgolion i'r Blog yn yr wythnosau nesaf. Daliwch ati gyda'r gwaith da Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd Megan Naish Cysylltwch â Megan Naish Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.