Hafan y Blog

Blwyddyn eithriadol! Blwyddyn ers cau drysau'r Amgueddfa Lechi dros-dro ar gyfer ailddatblygu!

Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, 3 Tachwedd 2025

Mae wedi bod yn ddeuddeg mis eithriadol i broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 

Ers i ni gau ein drysau am y tro ym mis Tachwedd 2024, mae'r tîm wedi ymgymryd â'r gamp anhygoel o baratoi'r amgueddfa ar gyfer y gwaith ailddatblygu. 

Rydyn ni wedi llwyddo i gael grant hynod uchelgeisiol gwerth £12m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae hyn, ynghyd â'r buddsoddiad gan ein cefnogwyr eraill, wedi ein galluogi o'r diwedd i wireddu uchelgais lawn y prosiect.   

Rydym wedi pacio a chludo ein casgliadau'n ddiogel i'w cartref dros dro yng Nghanolfan Gasgliadau Llandygai a wedi penodi MPH Ltd yn brif gontractwr i ddechrau ar y gwaith cadwraeth ac atgyweirio arbenigol iawn ar y safle, sy’n gyffrous dros ben. 

Yn ystod y gwaith galluogi, mae hen adeiladau’r siop a’r caffi wedi cael eu dymchwel yn barod ar gyfer y datblygiadau newydd ar y safle. Mae wedi bod yn anhygoel gweld y rhannau hyn o'r safle'n dychwelyd i sut roedden nhw'n edrych pan oedd y gweithdai'n weithredol, am y tro. 

Rydyn ni wedi mynd â'n staff a'n casgliadau ar y lôn, gan fynd â’r profiad amgueddfa y tu hwnt i waliau'r – i leoliadau partner ar hyd a lled ardal Safle Treftadaeth y Byd. Mae rhai o'n staff blaen ty ni wedi ymgartrefu yn Ysbyty'r Chwarel ac yn fan hyn rydym wedi cyflwyno cymeriad newydd sef Maragaret y Metron, dynes anhygoel go iawn oedd yn gweithio yno. Mae ein chwarelwyr llechi wedi ymgartrefu yn eu lleoliad dros dro yng Nghastell Penrhyn, moment bwerus a symbolaidd i hanes llechi a'u lle yn hanes ein cymunedau lleol yma yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae ein Gof draw yn Crefft Migldi Magldi yng nghei llechi Caernarfon gyda Gof ifanc yno.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio'n galed ar be fydd yn mynd i mewn i'r Amgueddfa yn y pen draw - yn dylunio a paratoi ar gyfer y gofodau dehongli newydd. 

Mae'n teimlo fel amser da i oedi, i bwyso a mesur, ac i ddathlu'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.  Dyma rhai o'r pethau sydd wedi eu cyflawni yn ystod yr amser yma diolch i'n staff eithriadol a'n partneriaid ehangach. 

Mae’r prosiect yn mynd ar wib a does dim arwydd ei fod am arafu! Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu’r profiad i ymwelwyr ar y safle, gan gynnwys yr arddangosfeydd o’r radd flaenaf yn yr amgueddfa, sy’n gyflwyniad gwirioneddol wych i safle treftadaeth y byd ‘Tirweddau Llechi Gogledd-orllewin Cymru’ – ochr yn ochr â'n partneriaid ar draws yr ardal hynod hon.  Gwyliwch y gofod yma am fwy o fanylion! 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.