Data Tywydd ar gyfer Chwefror Megan Naish, 11 Mawrth 2026 Helo Cyfeillion y Gwanwyn!Gobeithio eich bod wedi cael mis Chwefror hyfryd ac wedi mwynhau parhau â'ch gwaith caled yn casglu eich data tywydd! Mae rhai ysgolion hyd yn oed wedi dechrau cofnodi eu data blodeuo, sy'n wych i'w weld.Roedd mis Chwefror yn fis eithaf gwlyb i lawer o ardaloedd ledled y DU gyda rhai ardaloedd yn gweld mwy na chyfartaledd glawiad y mis cyfan o fewn 14 diwrnod cyntaf y mis, fel yr adroddwyd gan y Met Office. Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau rhanbarthol, gyda'r Alban ac yn enwedig gorllewin yr Alban yn nodi glawiad is na'r cyfartaledd. Roedd y tymheredd hefyd yn amrywiol, gyda'r tywydd yn oerach ar ddechrau'r mis ac yn fwynach tua'r diwedd.Efallai bod rhai ardaloedd wedi profi ychydig o ddiwrnodau o heulwen, sy'n cael ei adlewyrchu yn rhai o'ch sylwadau, a rhai delweddau rydw i wedi'u tynnu o amgylch Sain Ffagan yn ystod y mis! Tybed a welwn ni fwy o heulwen nawr wrth i ni fynd i mewn i fis Mawrth.Beth am i ni edrych ar eich arsylwadau ar gyfer y mis diwethaf, yn ogystal â rhai o'ch diweddariadau blodeuo!Arsylwadau Tywydd:Henllys Church in Wales SchoolIt has been very rainy this weekLammack Primary School Extremely windy and very coldHenllys Church in Wales School It has not been as cold as it has beenIrvinestown Primary School We really loved all the sunny weather we had this weekAthro’r Ardd:Diolch i chi gyd am barhau i ychwanegu'r manylion hyn yn eich sylwadau. Gallwn weld yn bendant y duedd i'r tywydd fynd yn fwynach wrth i ni ddarllen drwy linell amser y sylwadau, sy'n golygu bod ein data yn cyd-fynd ag adroddiadau tywydd eraill! Rwy'n cytuno ag Irvinestown Primary ynglŷn â mwynhau'r ychydig bach o heulwen rydyn ni wedi llwyddo i'w chael!I bob ysgol nad oeddent yn gallu cymryd darlleniadau tywydd oherwydd hanner tymor, peidiwch â phoeni! – ond diolch i chi am wneud sylwadau ar hyn o dan eich uwchlwythiadau 'Dim Cofnod'.Diweddariadau Blodeuo:Llanmartin Primary SchoolOur daffodils in pots are blooming (up against the wall) and those planted in the bed and alongside the pathway in the ground are only just beginning to bloom.Pinehurst Primary SchoolOur lovely daffodils opened today. They look so pretty and really brighten up our school.We have a lovely Crocus. We love the purple colour on it.Lammack Primary SchoolOne of the mystery bulbs flowered on Wednesday. It is a snowdrop.Another mystery bulb is almost flowering. It looks to be deep purple.Leslie Primary School We are so Excited. Out first Crocus has floweredWe were all so excited to see the purple.St Chrysostom's C of E Primary SchoolMany plants daffodils have flowered in the pots Only two have not flowered yet. Daffodils in the ground planter box have also flowered.Mountain Lane SchoolA lovely week in Buckley. It was warm and sunny. We all went to check on the flowers on Friday afternoon. None of the daffodils have flowered yet but several looked ready to pop St Francis' Primary - Aghaderg The pots in the sunnier location of the school grew taller and have opened firstSt Mary's CE Primary - ManchesterOne daffodil has bloomed; the rest are slowly growing still.Athro’r Ardd:Mae'n wych clywed eich bod wedi dechrau gweld eich Cennin Pedr, Crocws a Bylbiau Dirgel yn blodeuo! Mae mor gyffrous gweld eich gwaith caled yn gweithio wrth i chi wylio'ch planhigion yn tyfu o fylbiau bach i flodau bywiog.Mae'n hyfryd gwybod eich bod chi'n teimlo eu bod nhw'n bywiogi ardal eich ysgol, Pinehurst Primary.Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel yn gofalu am eich blodau, Gyfeillion y Gwanwyn.-Y mis hwn (Mawrth) yw ein mis olaf o gasglu data am y flwyddyn hon, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn uwchlwytho popeth rydych chi wedi'i gasglu i'n gwefan erbyn y 27ain. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yn hyn.Athro’r Ardd Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.