Planhigion Goresgynnol Sophie Hocking, 15 Mehefin 2026 Mae cadw golwg ar blanhigion sy’n cael eu cyflwyno a lledaeniad planhigion goresgynnol, a gwybod sut i adnabod y rhywogaethau hyn, yn bwysig er mwyn gwarchod ein hecosystemau – ac mae hyn yn rhan o waith Llysieufa Genedlaethol Cymru... Ydych chi wedi clywed y term rhywogaeth “oresgynnol”?Wrth i deithio rhyngwladol ddod yn haws ac yn fwy hygyrch dros amser, rydym wedi gallu symud planhigion, anifeiliaid, ffyngau ac algâu yn haws o amgylch y byd. Weithiau mae hyn yn digwydd yn fwriadol – er enghraifft, mewnforio planhigion tlws i’w tyfu mewn gerddi – ac weithiau’n ddamweiniol, fel rhywogaethau morol sy’n cael eu codi yn nŵr balast llongau cargo. Gallwch ddysgu mwy am rywogaethau goresgynnol a goresgynwyr morol yma.Rhywogaethau estron neu rywogaethau goresgynnol...Mae nifer y rhywogaethau sydd wedi cael eu cyflwyno o’u hamgylchedd brodorol (lle roedden nhw’n bodoli’n wreiddiol) i leoliadau newydd wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd. Gelwir rhywogaethau sydd wedi cael eu cludo i ardal na allent fod wedi’i gwladychu ar eu pennau eu hunain yn “rhywogaethau estron”.Er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddiniwed, mae 10-15% o rywogaethau estron yn ffynnu yn y cynefinoedd lle cawsant eu cyflwyno – maen nhw’n lledaenu ac yn achosi effeithiau negyddol ar ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau brodorol. Gelwir y rhain yn “rhywogaethau goresgynnol”, a gallant gael sgil-effeithiau difrifol ar ein hiechyd, yr hinsawdd a’n heconomi.Pam mae planhigion yn bwysig?Rydym yn aml yn anghofio ein bod yn rhyngweithio â phlanhigion bob dydd. Mae’r gwahanol gynefinoedd sydd i’w cael yng ngwledydd Prydain yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau sydd wedi addasu’n benodol ar eu cyfer, ac mae planhigion yn sail i lawer o’r cynefinoedd hyn. Mae planhigion yn ffynonellau bwyd i amrywiaeth enfawr o organebau (gan gynnwys ni!); maen nhw hefyd yn dylanwadu ar ein hamgylchedd ffisegol, er enghraifft lleihau’r risg o lifogydd drwy sefydlogi glannau afonydd a storio dŵr. Mae rhai rhywogaethau o blanhigion yn arbennig am eu bod yn brin ac ond yn tyfu ar Ynysoedd Prydain. Fodd bynnag, mae ein fflora yn newid; mae gennym fwy o rywogaethau estron na rhywogaethau brodorol o blanhigion ym Mhrydain erbyn hyn!Planhigion goresgynnol – sut maen nhw’n cyrraedd yma a beth yw’r broblem?Yng ngwledydd Prydain, mae 36 o rywogaethau planhigion sy’n destun pryder arbennig, ond mae yna fwy o rywogaethau sy’n cael eu hystyried yn rhai goresgynnol ac mae deddfwriaeth arbennig ynghylch sut y gellir eu trin er mwyn rheoli eu lledaeniad. Yn bennaf, mae’r rhywogaethau hyn wedi cyrraedd gwledydd Prydain drwy arddwriaeth, ond yn llai cyffredin, mae planhigion goresgynnol yn cyrraedd drwy gael eu cario mewn deunyddiau sydd wedi’u mewnforio neu ym malast llongau.GarddwriaethMae llawer o rywogaethau wedi cael eu mewnforio fel planhigion addurnol oherwydd eu bod yn brydferth ac yn cael eu hystyried fel planhigion da mewn gardd – roedd hyn yn arbennig o gyffredin yn y cyfnod Fictoraidd, cyn i ni wybod llawer am risgiau cyflwyno rhywogaethau estron i diroedd newydd!Mae Clymog Japan yn enghraifft berffaith. Cafodd y rhywogaeth hon ei chyflwyno i Brydain yn y 1800au, cyn cael ei lluosogi a dod yn blanhigyn gardd egsotig poblogaidd. Fodd bynnag, mae cofnodion o’r planhigyn yn dianc o erddi mor gynnar â 1907 ym Morgannwg, a hyd heddiw, mae Clymog Japan yn blanhigyn sy’n peri llawer o broblemau yn y de. Mae tystiolaeth yn dangos bod pob planhigyn Clymog Japan (Reynoutria japonica amr. japonica) sy’n tyfu ym Mhrydain wedi tarddu o un planhigyn benywaidd a gyflwynwyd flynyddoedd lawer yn ôl! Mae’r planhigyn hwn yn tyfu ar hyd ochrau ffyrdd, glannau afonydd, rheilffyrdd, coetiroedd a glaswelltiroedd, lle mae’n lledaenu drwy risomau tanddaearol dwfn (coesynnau tanddaearol sy’n cynhyrchu egin newydd) ac yn lleihau bioamrywiaeth yn ddifrifol. Mae tua £1.7 miliwn yn cael ei wario yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn er mwyn ceisio rheoli Clymog Japan a lliniaru difrod y planhigyn! Clymog Japan yn tyfu yn De Cymru. Sbesimen o glymog Japan yn Llysieufa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru), a gasglwyd o Sain Ffagan. Cafodd Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) hefyd ei gyflwyno fel planhigyn addurnol o’r Himalayas ym 1839. Heddiw, mae’n tyfu ar hyd glannau afonydd, mewn coetiroedd ac ar hyd ffyrdd. Mae ganddo godennau hadau ffrwydrol sy’n caniatáu iddo ledaenu dros bellteroedd mawr. Er bod y blodau’n brydferth, mae’n cystadlu â rhywogaethau brodorol, gan leihau bioamrywiaeth. Mae ganddo hefyd systemau gwreiddiau bas sy’n gallu gwaethygu erydiad glannau afonydd, sydd yn ei dro yn lleihau ansawdd dŵr ac yn cynyddu’r perygl o lifogydd. Yn ôl astudiaeth gan fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Amy Wyatt, ers 1865 mae planhigyn Jac y Neidiwr wedi esblygu i addasu’n well i’w amgylchedd newydd. Sbesimen o Jac y Neidiwr. Deunyddiau halogedig sydd wedi’u mewnforioLlwyddodd y planhigyn Pirri-pirri (Acaena novae-zelandiae) i gyrraedd Prydain o dde-ddwyrain Awstralia a Seland Newydd wrth gael ei gludo ar wlân a gafodd ei fewnforio. Mae ganddo hadau bachog sy’n gallu glynu’n hawdd wrth ffwr a dillad. Fel llawer o blanhigion goresgynnol, gall y rhywogaeth hon gystadlu â’n planhigion brodorol a ffurfio clystyrau trwchus sy’n lleihau bioamrywiaeth. Enghraifft o flodyn burr Pirri-pirri, yn dangos bachau/pigau sy'n caniatáu i hadau ledaenu trwy lynu wrth ffwr a dillad. Sbesimen o blanhigyn Pirri-pirri. Mae’r planhigyn Ambrosia (Ambrosia artemisifolia) yn frodorol i Ogledd America a chredir iddo gyrraedd Prydain mewn hadau adar, pridd garddwriaethol a phridd a ddefnyddir i sadio llongau. Mae ei baill yn alergenig iawn a gall achosi clefyd y gwair.Mwsogl goresgynnol yw Serennog y Waun (Campylopus introflexus) a chredir iddo darddu yn hemisffer y De ac iddo gael ei gyflwyno gyda chynnyrch a gludwyd gan longau. Mae hefyd yn cael ei alw’n Fwsogl y Tanciau, oherwydd credir iddo gael ei ledaenu gan danciau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n wladychwr arbenigol ar dir noeth asidig, fel tir tomenni glo, ac mae bellach yn gyffredin yng Nghymru lle mae’n bygwth y cynefinoedd cyfoethog hyn o fywyd gwyllt. Serennog y Waun yn tyfu yn Pendyrus. Yn ddiweddar, mae ffwng newydd (Bryoscyphus granulosus) wedi’i ddarganfod sy’n heintio Serennog y Waun a mwsoglau tebyg. Mae’r ffwng yn achosi i’r mwsogl farw a ffurfio clytiau marw sy’n ehangu allan, fel cylch tylwyth teg. Mae sbesimenau o’r ffwng hwn wedi cael eu rhoi i’r amgueddfa yn ddiweddar gan y cyn-guradur George Greiff. Mae’r rhain yn cynnwys yr ‘holoteip’, y sbesimen gwreiddiol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r ffwng fel un newydd i wyddoniaeth. Mae gan y parasit ffwngaidd hwn bwysigrwydd ecolegol sylweddol, ac o bosib mae ganddo’r potensial i reoli mwsogl goresgynnol a all achosi niwed sylweddol.Sut rydym yn gweithio ar blanhigion goresgynnol yn Amgueddfa CymruMae Llysieufa Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys dros dri chwarter miliwn o sbesimenau planhigion, sy’n cynrychioli tua 300 mlynedd o waith yn casglu a chwmpasu bron pob rhywogaeth yng Nghymru. Mae’r llysieufa yn drysorfa o wybodaeth sy’n gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer adnabod planhigion, gwybod ble mae rhywogaethau i’w cael, a sut mae planhigion estron a goresgynnol yn lledaenu ar draws Ynysoedd Prydain. Gallwch ddysgu mwy am beth yw llysieufa a sut rydym yn cadw sbesimenau planhigion yma. Mae’r tîm Botaneg yn gweithio’n galed i ofalu am y casgliadau hyn o sbesimenau a’u datblygu er budd pawb, ac i gefnogi ymchwil barhaus i amrywiaeth newidiol ein hecosystemau. Rydym yn rhan fach o dîm Gwyddorau Naturiol Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys curaduron sy’n gofalu am y casgliadau hanes natur. Mae rhai ohonom yn arbenigo mewn tacsonomeg rhywogaethau (enwi a dosbarthu rhywogaethau) ac ecoleg; mae rhai ohonom yn ymchwilio i rywogaethau estron a goresgynnol er mwyn i ni allu deall eu lledaeniad a’u heffaith.Beth allwch chi ei wneud i helpu?Mae yna lawer o ffyrdd o helpu i atal lledaeniad planhigion goresgynnol. Mae rhagor o wybodaeth yma. Gallwch chi helpu i atal goresgynwyr yn y dyfodol drwy gadw llygad ar y planhigion yn eich gardd a rhybuddio eraill am rywogaethau a allai neidio dros wal yr ardd. Mae yna hefyd ffyrdd o atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol mewn dŵr ac o amgylch dŵr – dysgwch fwy yma. Dr Sophie Hocking Uwch Guradur: Botaneg (Rhywogaethau Goresgynnol ac Estron) Gweld Proffil Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.