Hafan y Blog

Helios ac Eclips Rhannol yr Haul

Heather Jackson, 31 Gorffennaf 2026

Nos Fercher 12 Awst 2026, bydd modd i bobl yng Nghymru weld eclips rhannol yr haul. Mae hyn yn golygu y bydd tua 90% o’r Haul wedi’i orchuddio gan y Lleuad. 

Dyma fydd yr eclips agosaf i eclips cyflawn yr haul yng ngwledydd Prydain ers 1999, a bydd rhaid i chi aros tan 2090 i weld eclips llawn nesaf yr haul yng Nghymru!

Ar yr un pryd, bydd ymwelwyr Amgueddfa Cymru yn cael cyfle i archwilio Helios, sef gosodwaith goleuedig ysblennydd gan yr artist Luke Jerram.  Bydd modd i ymwelwyr brofi’r Haul mewn eclips rhannol ac archwilio dehongliad artistig agos. 

Bydd Amgueddfa Caerdydd yn agor yn hwyr ar 12 Awst i ddathlu’r eclips. I’ch helpu i’w weld yn ddiogel, byddwn ni wrthi drwy’r dydd yn creu syllwyr eclips o focsys grawnfwyd yng Nghanolfan Darganfod Clore. Beth am ddod â bocs grawnfwyd gyda chi i’w droi’n declyn gwyddonol? Mae tocynnau i’r digwyddiad hwn am ddim, a gallwch eu harchebu yma: Hwyrnos yr Amgueddfa: Eclips yr Haul | Amgueddfa Cymru

Beth yw eclips yr haul?

Mae eclips yr haul yn digwydd pan fydd y Ddaear, y Lleuad a’r Haul mewn rhes â’i gilydd. Mae’r Lleuad yn mynd heibio i flaen yr Haul ac yn atal ei olau, gan daflu cysgod bach ar y Ddaear. Gan fod y cysgod yn eithaf bach o gymharu â maint y Ddaear, dim ond rhai gwledydd sy’n gweld yr eclips.

Map o Eclips Cyflawn yr Haul, 12 Awst 2026

Llinell drwchus (sy’n goch ar y map o’r byd) yw’r ‘llwybr cyfanrwydd’ lle mae gwylwyr yng nghysgod llwyr y Lleuad. Bydd y bobl hyn yn gweld eclips cyflawn.

Ar 12 Awst, bydd y llwybr cyfanrwydd yn mynd dros yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ, a Sbaen. Bydd pobl yng ngwledydd Prydain, Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir a gogledd yr Eidal yn gweld eclips rhannol, lle mae rhan o'r Haul (90%) wedi'i orchuddio gan y Lleuad.

Yn achos Cymru, dyma fydd yr eclips agosaf i eclips cyflawn ers 27 mlynedd!

Eclipsau hanesyddol yng Nghymru

Mae eclipsau haul cyflawn yn brin iawn yng Nghymru, ond mae yna gofnodion ohonyn nhw. Fis Mehefin 1927 oedd y diwethaf, ond roedd y tywydd yn wael gyda chymylau tywyll a glaw trwm. 

Yn achos eclips 1836, roedd pethau’n well yng Nghymru. Ymddangosodd yr adroddiad barddonol canlynol yn y Seren Ogleddol wedi hynny. Byddai trigolion gwreiddiol bythynnod Rhyd-y-car a Ffermdy Cilewent yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi gweld yr eclips hwn yn yr un modd â’r awdur hwn.

DIFFYG AR YR HAUL

Cymerodd y peth anarferol hwn le, Sabbath y 15 o Fai, yn union yn yr amser. Mewn rhai mannau yn y dywysogaeth, dywedir bod y brain yn mynd i'w coedwigoedd, yr adar yn mynd i'w nythod, a'r ystlum yn dangos ei hun; yr ieir yn chwilio am eu clwydau. Yr oedd natur wedi llawn prydferthwch, felpetai wedi ei daro â syndod a rhyfeddod; yr awyr yn oer a thywyll, fel pe bai rhywbeth annormal yn dod i'r ddaear; ac wedi i'r gwanwyn godi, dyma natur yn codi o farwolaeth i fyw, yr ystlumod yn dianc i'w tyllau, a'r adarbach yn canu'n hapus i'w Creawdwr, a phob peth yn edrych mor brydferth a dymunol a cynharach. 

SOLAR ECLIPSE

This unusual event took place on Sabbath, 15th May, exactly at that time. In some parts of the county, it is said that the crows went to their woods, the birds went to their nests, and the bats appeared; the hens went to roost. Nature that was full of beauty, appeared as if struck with wonder and amazement; the air was cold and dark, as if something abnormal was coming to the earth; and after the sun reappeared, nature arose from death to life, the bats escaped to their holes, and the little birds sang happily to their Creator, and everything looked as beautiful and pleasant as before.

Beth fydd yn digwydd ar 12 Awst 2026?  

6.17pm (Caerdydd): Yn gyntaf bydd y Lleuad yn gorchuddio rhan o ddisg yr Haul. 

Bydd y Lleuad yn symud yn araf o flaen yr Haul tan y bydd tua 90% o’r Haul wedi’i gorchuddio. 

7.12pm (Caerdydd): Uchafbwynt yr eclips, pan fydd digon o’r haul wedi’i orchuddio i wneud gwahaniaeth amlwg yn y tymheredd a lefel y golau. Fydd yr awyr ddim yn troi’n dywyll mewn gwirionedd. 

Ar ôl yr uchafbwynt, bydd y Lleuad yn symud yn araf oddi ar ddisg yr Haul tan mai dim ond darn bach fydd ar ôl.

8.06pm (Caerdydd): diwedd yr eclips.

Gan y bydd hyn yn digwydd wrth i’r Haul fachlud, bydd yr Haul a’r Lleuad yn mynd yn is ac yn is ar y gorwel wrth i’r eclips barhau. Y ffordd orau o weld yr eclips fydd o fan uchel â golygfa glir o’r gorwel gorllewinol. Bydd rhaid i ni groesi bysedd am awyr ddi-gwmwl!

Bydd eich golygfa hefyd yn dibynnu ar ble yng Nghymru ydych chi – Sir Benfro fydd â’r golygfeydd gorau. Yno bydd 94% o’r Haul wedi’i orchuddio gan y Lleuad. 

Os ydych chi’n bwriadu gweld yr eclips ar 12 Awst, beth am ymweld â Helios i gael golwg agos o’r Haul ymlaen llaw i weld sut olwg sydd ar yr Haul yn agos?

Llun cyfansawdd o eclipse rhannol yr haul o Ganolfan Ofod Johnson NASA yn Houston, 21 Awst 2017

Llun cyfansawdd o eclipse rhannol yr haul o Ganolfan Ofod Johnson NASA yn Houston, 21 Awst 2017. NASA Image and Video Library.

Sut i weld eclips yr haul 

Ddylech chi fyth edrych yn uniongyrchol ar yr Haul, hyd yn oed yn ystod yr eclips. Gall gwneud hynny niweidio’ch llygaid yn ddifrifol. 

Byddwn ni’n creu syllwyr eclips drwy gydol y dydd ar 12 Awst, felly beth am ddod i greu un eich hun?

Gallwch wylio eclips rhannol yr haul yn ddiogel ar 12 Awst drwy ddefnyddio: 

1. Sbectol eclips – Gall sbectol arbennig ar gyfer yr eclips atal pelydrau niweidiol yr haul a’ch galluogi i edrych ar yr haul yn ddiogel. Nid yw sbectol haul arferol yn ddiogel i’w defnyddio! Gwnewch yn siŵr bod gan eich sbectol eclips ardystiad diogelwch ‘ISO 12312-2' wedi’i argraffu arnyn nhw. Peidiwch ag ailddefnyddio hen sbectol eclips: efallai na fyddan nhw’n ddiogel. Gallai hyd yn oed crafiad microsgopig yn y lens niweidio’ch golwg

Sbectol eclips

Sbectol eclips, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons

2. Telesgop yr haul – Gwiriwch gyda’ch cymdeithas seryddol leol i weld a ydyn nhw’n cynnal digwyddiad gwylio’r eclips ar 12 Awst. Efallai y bydd ganddyn nhw delesgopau â hidlwyr haul arbennig arnyn nhw, sy’n ddiogel i’w defnyddio i wylio’r Haul. Ddylech chi fyth ddefnyddio telesgopau na binocwlars arferol i edrych ar yr Haul. 

3. Creu taflunydd twll pin – Mae sawl ffordd y gallwch greu ‘taflunydd twll pin’, a fydd yn eich galluogi i weld yr eclips drwy daflunio golau’r Haul, a’r tamaid sy’n cael ei gymryd ohono, ar arwyneb arall. Rhowch gynnig ar hwn: Creu eich camera twll pin eich hun | The Schools' Observatory. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio twndis cegin i daflunio delwedd o’r eclips yn ddiogel ar y ddaear! 

Diagram o daflunydd twll pin

Archebwch eich tocynnau am ddim yma - Hwyrnos yr Amgueddfa: Eclips yr Haul

Helios gan Luke Jerram
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.