Plannu hadau gwybodaeth
24 Medi 2010
,Mae Amgueddfa Cymru yn paratoi i anfon bylbiau’r gwanwyn a photiau i 2,621 o wyddonwyr ysgol gynradd ar draws Cymru, fel rhan o’n ymchwil parhaol i effaith newid hinsawdd.
Rhoddwyd dros 3,000 o fylbiau drwy garedigrwydd y Really Welsh Company a chawsant eu pacio gan dîm o wirfoddolwyr hynod effeithlon. Bydd y bylbiau, y potiau a’r offer yn galluogi ysgolion i gofnodi’r tywydd a dyddiau blodeuo mewn 70 lleoliad ar draws Cymru.
Bydd pob ysgol yn cwblhau tasgau ac yn cadw cofnod drwy gydol y gaeaf a’r gwanwyn er mwyn ennill tystysgrifau gwyddonydd gwych a ddyfernir gan arweinydd y project – Athro’r Ardd. Mwynhaodd y gwirfoddolwyr y profiad ac roeddent yn fwy na pharod i gynorthwyo â logisteg y project gwerth chweil yma, fydd yn galluogi’r Amgueddfa i rannu’i gwybodaeth wyddonol ag ysgolion ar draws Cymru – dim ots pa mor anghysbell maen nhw.
Bydd yr ysgol sy’n ymroi fwyaf yn ennill trip casglu cennin Pedr gyda ffermwyr y Really Welsh company sy’n tyfu eu cynnyrch i gyd o fewn i Gymru.
Yr wythnos yma bydd gyrrwr y fan, Paul Evans, yn dosbarthu’r pecynnau ymchwil ar hyd ffyrdd troellog Cymru i sicrhau bod pob ysgol wedi derbyn eu bylbiau mewn pryd ar gyfer y diwrnod plannu mawr ar 20 Hydref. Mae Paul wedi gweithio i wasanaeth benthyg yr Amgueddfa Genedlaethol ers 20 mlynedd.