Brrgggh!
29 Tachwedd 2010
,Newid yn y tywydd ers fy adroddiad yr wythnos diwethaf!
Mae’r tymheredd wedi cwympo ac mae’r wlad i gyd dan eira. Mae sawl ysgol wedi cau ac mae ysgolion eraill yn cofnodi bod y mesuryddion glaw yn ‘llawn eira’! Roedd Ysgol Gynradd Maesycwmer yn glyfar iawn yn toddi’r eira yn eu mesurydd glaw cyn ei gofnodi! Gwelwch y sylwadau isod.
Neithiwr, cofnodwyd y tymereddau isaf erioed am fis Tachwedd. Yng nghanolbarth Cymru, cyrhaeddwyd record o -18C (0F) yn Llysdinam, ym Mhowys. Adroddodd Dr Fred Slater: ‘Rydw i wedi bod yn cofnodi’r tywydd yng Nghanolfan Faes Llysdinam yn ddiwyd ers 30 mlynedd – a neithiwr oedd yr oeraf i fi ei gofnodi.”
Os ydych chi’n medru cyrraedd yr ysgol, anfonwch eich canlyniadau ac unrhyw luniau o’r eira sydd gennych.
Roedd y Robin haerllug yma yn fy atgoffa i o pa mor llwglyd fydd adar yn ystod y gaeaf. Daeth yn agos iawn ata i yn Sain Ffagan y bore ‘ma. Yn ffodus roedd fy mocs bwyd gyda fi felly rhoddais i ychydig friwsion iddo fe yn gyfnewid am gael tynnu ei lun.
Os hoffech chi helpu’r adar y gaeaf hwn cofiwch roi bwyd adar allan yn yr ysgol neu’r ardd. Fe wnes i ychydig o beli braster dros y penwythnos. Roedden nhw’n hawdd i’w gwneud ac yn llawer o sbort.
Er mwyn dysgu sut i wneud cacennau adar a peli braster ewch i http://bit.ly/i7mdNN
Os ydych chi’n chwilio am le da i wylio adar beth am ymweld â’n cuddfan wylio adar yn Sain Ffagan http://bit.ly/cPGqzz
Athro’r Ardd.
sylw - (5)
Thursday:snow and ice