Hafan y Blog

Yw hi'n wanwyn eto?

Danielle Cowell, 14 Ionawr 2011

Wedi’r holl rew ac eira, mae hi’n teimlo’n gynnes yma yng Nghaerdydd heddiw er taw dim ond 10 gradd Celsius yw hi. Mae’n rhaid bob y bylbiau wedi sylwi hefyd – maen nhw wedi dechrau tyfu’n barod! Roedd gweld yr ardd yn dod yn fyw eto yn codi nghalon i!

Adroddodd Ysgol Porth Y Felin: "Wedi i’r eira glirio gallwn ni weld bod y planhigion yn tyfu. Mae’n cynhesu!" Newyddion gwych! Cofiwch roi gwybod i mi os yw’r bylbiau yn eich ysgol wedi dechrau tyfu neu os oes unrhyw arwyddion eraill bod y gwanwyn ar ei ffordd. Anfonwch ffotograffau os oes rhai ar gael.

Ar hyn o bryd dylai ysgolion sy’n rhan o ymchwil bylbiau’r gwanwyn fod wrthi’n brysur yn casglu cofnodion tywydd er mwyn cael cyfle i ennill trip, ac yn cadw llygad am unrhyw olwg o’r bylbiau’n tyfu bob dydd. Defnyddiwch yr adnoddau canlynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod am beth i chwilio a sut i gofnodi’n gywir.

Daw fy hoff gwestiwn yr wythnos hon gan Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs. Gofynnon nhw: "Os ydych chi’n plannu’ch bwlb yr un pryd â’ch partner fyddan nhw’n blodeuo yr un pryd?” Rhowch gynnig ar ateb y cwestiwn a bydda i’n rhoi ateb cywir yr wythnos nesaf... 

Llawer o law a llifogydd. Yn anffodus, mae sawl ardal o Gymru wedi dioddef llifogydd, yn cynnwys ein hamgueddfa ni yn Sain Ffagan. Adroddodd Ysgol Gynradd Maesycwmer eu bod nhw wedi profi "Wythnos wlyb iawn!" gyda dros 100mm o law mewn un diwrnod. Edrychwch ar y cofnodion tywydd diweddaraf o’r ysgolion i weld faint o law mae’n nhw’n ei weld.

Mae nifer o wledydd ar draws y byd, yn dioddef llifogydd mawr. Mae llifogydd ym Mrasil, Awstralia a Sri Lanka wedi effeithio ar fywydau nifer o bobl. Er nad ydyn ni’n gallu gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng y llifogydd diweddar a newid hinsawdd, maen nhw’n rybudd at y dyfodol: mae gwyddonwyr yn rhagweld bydd cynnydd mewn dwyster ac achosion o dywydd eithafol wrth i’r blaned gynhesu.

Dyma pam mae gwaith pob ysgol bylbiau’r gwanwyn yn bwysig – felly daliwch ati!

Athro’r Ardd

Danielle Cowell

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.