Blodyn cyntaf
11 Chwefror 2011
,Mae fy nghrocws cyntaf wedi cyrraedd! Does dim ysgolion wedi son am rai eto, ond dwi’n disgwyl y bydd llawer o adroddiadau’n cyrraedd yr wythnos yma.
Cyn hir, bydd llawer o flodau yn ymddangos ar y map – yna gallwch chi weld yn union ble mae’r blodau yn agor gyntaf.
Cofiwch, mae blodau crocws yn agor tua chanol y bore, ac yn cau erbyn diwedd y dydd. Lawrlwythwch fy syniadau ymchwilio i brofi’r theori gyda’ch blodau crocws chi.
Peidiwch â cholli’ch blodau! Os na fydd eich crocws wedi agor erbyn diwedd yr wythnos, ewch â’ch pot adre gyda chi dros wyliau’r hanner tymor. Yna, gallwch chi fwynhau eich blodau a dangos i’r teulu beth rydych chi wedi bod yn ei dyfu.
Dydw i ddim wedi derbyn unrhyw gwestiynau’r wythnos hon, ond rydw i wedi cael adroddiadau o flagur gan Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff.
Anfonwch luniau o’ch dosbarth chi a’ch blodau ata i!
Athro’r Ardd
sylw - (3)
Max height: 100