Hafan y Blog

Mae'r crocysau wedi cyrraedd!

Danielle Cowell, 3 Mawrth 2011

Bron fel hud a lledrith mae crocysau wedi blodeuo hyd a lled Cymru!

Agorodd llawer ohonyn nhw yn ystod gwyliau’r hanner tymor, felly fe ddylen ni dderbyn llawer mwy o gofnodion gan ysgolion gan fod y disgyblion yn ôl yn yr ysgol nawr.

Yn anarferol eleni, rydyn ni wedi derbyn cofnodion o grocws yn agor yn y canolbarth cyn cofnodion o’r gorllewin. Dyma newyddion da i Ysgol Glantwymyn sydd fel arfer yn gorfod aros hiraf am eu blodau.

Darllenwch fy llythyr i weld sut i ennill trip ac i ennill eich tystysgrifau gwyddonwyr gwych.

Does dim cofnodion o gennin Pedr wedi fy nghyrraedd i eto, ond dwi’n si?r y clywn ni am adroddiadau cyn hir.

Mae fy nghennin Pedr i wedi dechrau troi eu pennau sy’n arwydd eu bod yn paratoi i flodeuo. Mae’r coed yn fy ngardd wedi dechrau blodeuo ac mae’r dail yn dechrau tyfu – cyn bo hir bydd fy ngardd i’n llawn lliw. Dwi methu aros! Mae llawer o arwyddion bod y gwanwyn wedi cyrraedd Sain Ffagan hefyd.

Cofiwch ddweud wrtha i sut mae’ch blodau chi?

Athro’r Ardd

Danielle Cowell

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.