Casglu Cyfoes
14 Mehefin 2007
Wel, ar ôl blynyddoedd o ymwrthod, dwi wedi penderfynu sgwennu blog. A dweud y gwir, doedd gen i ddim dewis. Cefais fy mhenodi'n Guradur Bywyd Cyfoes yma'n Amgueddfa Werin Cymru, ac fel rhan o fy ffurflen gais, cyhoeddais i'r byd y buasai'n dda o beth rhoi cyfle i'r curaduron rannu eu bywydau diddorol, llawn cyffro, gyda'r cyhoedd. Hyn er mwyn cynyddu "argaeledd" (buzz-word amgueddfaol) y casgliadau. Roedd yn rhaid, felly, dangos y ffordd.
Casglu cyfoes - beth yn union mae hynny'n olygu? Wel, i hwyluso pethau, penderfynais hollti'r swydd yn ddwy.
Yn gyntaf, rwyf am weithio gyda churaduron eraill i lenwi'r gaps yn y casgliad ers 1950. Mae'n gasgliad eithaf cryf yn nhermau gwrthrychau a hanes llafar y Gymru Gymraeg wledig, amaethyddol cyn 1950, ond yn wannach yn nhermau hanes y Gymru ddi-Gymraeg, drefol, ddiwydiannol yn enwedig ar ol 1950, er fod adeiladu Rhyd-y-car, Oakdale a Gwalia wedi gwella 'r sefyllfa rywfaint.
Bydd rhaid bod yn ddethol iawn wrth ddewis pethau gan fod y stordai yn llawn dop. Y bwriad yw pigo a dewis gwrthrychau'n ofalus, a gweu storiau a hanesion o'u hamgylch e.e. gallwn arddangos camera super 8 mewn cesyn, tra'n arddangos ffilmiau o Dreforgan yn y Chwedegau yn y cefndir, a chael tystiolaeth y bobl oedd yn berchen ar y ffilm ar arwydd.
Mae'r ail ran yn anos. Beth i'w gasglu yn yr oes wastraffus, E-beiaidd hon? Ein penderfyniad yw delio gyda chymunedau, prosiectau penodol, gweithdai a themau. Gallwn wedyn gwtogi'r dewis a chanolbwyntio ar wrthrychau neu storiau sy'n crisialu'r oes.
Er enghraifft, mae gennym Ddresel Gymunedol fydd yn newid pob chwe mis. Bydd cymuned neu grwp gwahanol yn arddangos gwrthrychau sy'n bwysig iddyn nhw. Y grwp cyntaf yw grwp Ieuenctid o Benyrenglyn a arddangosodd Gameboy Nintendo, peldroed wedi ei arwyddo a blanced gysur. Y grwp nesaf fydd Cymdeithas Hanes Johnstown.
Dull arall o gasglu cyfoes yw creu Storiau Digidol. Gwneir hyn trwy dynnu lluniau ar gamera ffon a chreu ffilm fer gyda'r canlyniadau. Rwyf am fynychu cwrs a chynhadledd yn Aberystwyth wythnos nesaf fydd yn delio gydda hyn. Na i adael i chi wybod sut aeth hi.
Fy arddangosfa fawr gyntaf fydd un ar gerddoraieth bop Cymru. Dwi'n gobeithio cynnwys gwrthrychau fel offerynnau, props llwyfan a ffansins, dangos fideos, chwarae recordiadau sain a chynnal gweithgareddau fel gweithdai rap.
Mae mwy i ddod...