Un wythnos arol... Danielle Cowell, 25 Mawrth 2011 Dim ond un wythnos sydd ar ôl bellach i ysgolion anfon eu data tywydd atom ni. Mae llawer wedi gwneud yn barod ac maen nhw ar eu ffordd i gael tystysgrifau gwyddonwyr gwych.Hyd yn hyn yr wythnos hon, rydw i wedi derbyn 305 o gofnodion! Bydd yr ysgolion sydd wedi cadw cofnod orau yn cael y cyfle i ennill taith weithgareddau natur. Byddwn yn dewis ac yn cyhoeddi’r enillydd ddydd Iau nesaf!Erbyn hyn hefyd mae adroddiadau o flodau wedi’n cyrraedd o bob cwr o Gymru. Dwi mor falch bod cymaint o flodau wedi goroesi’r gaeaf caled. Fe gollodd rhai ysgolion eu cennin Pedr i’r rhew – dyna biti mawr – ond bydd tystysgrif ar eu cyfer nhw hefyd am fod yn wyddonwyr mor dda.Bwlb dirgel eleni yw’r tiwlip. Dwi’n hoffi’r blodyn yma am ei fod mor lliwgar.Ar ddydd Sadwrn 2 Ebrill, byddwn ni’n cynnal diwrnod o weithgareddau natur yn Sain Ffagan. Cliciwch ar y ddolen i weld ffilmiau byr am ystlumod ac anifeiliaid arbennig eraill sy’n byw yn Sain Ffagan. Danielle Cowell Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC) Cysylltwch â Danielle Cowell Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.